Cyfweliad rhwng Dr. Lewis H. Thomas a W. E. Davies.
Disgrifiadau
Mae Dr. Lewis H. Thomas a W. E. Davies yn parhau â'u cyfweliad. Maent yn trafod sut yr aseiniwyd tir i'r gwladychwyr newydd i Ganada a sut yr oedd brys mawr i sefydlu ysgolion er mwyn addysgu’r Saesneg, i helpu gyda'r integreiddio. Maent yn siarad am effaith y rhyfel byd cyntaf ar y boblogaeth a sut yr oedd y cyfnod rhwng y rhyfeloedd yn gyfnod llewyrchus yn amaethyddol oherwydd y tywydd ffafriol. Mae W. E. Davies hefyd yn siarad am draddodiad canu cryf ymhlith y gwladychwyr a sut y cynhaliwyd oedfaon Cymraeg yn y capeli a'r eglwysi a oedd newydd eu sefydlu yn yr ardal, i ddechrau. Roedd cystadlaethau canu hefyd yn gyffredin adeg hynny. Trafodant sawl ffotograff ac arteffact yr oedd Mr. Davies wedi dal gafael arnynt gan gynnwys medal a gafodd yn nathliad Canmlwyddiant y Wladfa ym Mhatagonia. Mae Mr. Davies hefyd yn sôn sut y collwyd llawer o gofnodion pwysig y wladfa yn ystod y llifogydd ym Mhatagonia yn 1905, fodd bynnag roedd ganddo lawer o straeon a gwyddai am lawer o hanesion personol am fywyd yn y wladfa ac fe'i disgrifia i Dr Lewis. Mae Mr. Davies hefyd yn siarad am y modd y bu i ansefydlogrwydd y llywodraeth ym Mhatagonia ar y pryd ddylanwadu’n fawr ar benderfyniad ei dad i symud i Ganada.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment