Glenys James yn siarad i A. H. (Nan) Davies. (rhan 1)
Disgrifiadau
Mae Glenys yn siarad ag A. H. (Nan) Davies am ei phrofiadau anhygoel o ddod i Ganada a byw yng Nghanada. Â hithau yn aml yn gorfod gofalu amdani hi ei hun tra bod ei gŵr allan yn gweithio, disgrifia Nan ei siwrnai flinderus a thrallodus i’r Mynyddoedd Creigiog (Y Rockies) yn cario'i baban ac yn feichiog ers 7 mis. Cafodd ei swyno gan yr anialwch a datblygodd wir werthfawrogiad o'r blodau a'r ffawna yn yr ardal, gan gynnwys racwniaid, drewgwn ac eirth. Disgrifia ei bodolaeth ar y pryd fel brwydro am ei bywyd, ac felly teimlai fod dal gafael ar bethau fel arferion Cymreig yn ddianghenraid. Roedd y gwersyll lle'r oeddent yn byw yn gybolfa, o Americaniaid i Bwyliaid, ac felly prin oedd y cyfleoedd i arfer traddodiadau Cymreig. Fodd bynnag mae Nan yn disgrifio'r dylanwadau Cymreig y gellir eu gweld yn yr ardal, er enghraifft y pontydd gan Alf James (o Gaerdydd yn wreiddiol) a'r ffaith iddo ddarganfod tarddellau poeth Miette. Cofia achlysur pan fu iddi ganu cân theatr gerdd, 'Queen of the Earth' i gael arth i ffoi oddi wrthi. Roedd wedi dysgu'r gân yn wreiddiol i'w chanu mewn Eisteddfodau yn ôl yng Nghymru. Â hithau'n wir gymeriad, cogiodd fod yn ddyn i fynd i lawr i'r pwll glo i chwarae jôc ar un o'i chymdogion. Wedi symud i Edmonton, Alberta, roedd Nan wedi gallu ailymuno â'r gymuned gerddorol Gymraeg a'r gymdeithas Gymraeg i fwydo'i chariad at gerddoriaeth Gymreig. Disgrifia hefyd sut yr oedd y gymuned Gymraeg wedi rhoi o'i hamser a'i sgiliau i adeiladu Neuadd Cambrian yn Edmonton.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment