Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae Idris Hughes yn parhau i ganu'r gân werin Gymraeg ‘Neithiwr yr euthum i dŷ fy nhad.’ Yna mae Mair Davies yn canu'r penillion ‘Y Sipsi’ ar alaw ‘Llwyn Onn’ ac yna ‘Calon Lan,’ emyn ar alaw ‘Cain y Datgeiniad,’ ‘Y Gelynnen,’ ‘Yr asyn a fu farw,’ ‘Mae ci Mary Ann tŷ'n coed,’ ‘Croesi'r afon a chetyn yn ei geg’ a ‘Pistyll y Llan’. Yna mae Glenys James yn cyfweld â Mair Davies a aned yn Hamilton, Ontario. Symudodd ei rhieni o Sir y Fflint ac er gwaethaf y ffaith iddynt fyw yng Ngogledd America, Cymraeg oedd ei hunig iaith nes iddi ddechrau yn yr ysgol. Addysgwyd hi gan ei mam i ganu penillion a chaneuon traddodiadol Cymraeg, ac mae ganddi ddiddordeb mawr ynddynt. Trosglwyddodd ei rhieni lawer o straeon iddi am fywyd yng Nghymru a'r traddodiadau a oedd ganddynt wrth iddynt dyfu i fyny. Disgrifia sut yr oedd y Cymry wedi cael eu derbyn yn rhan o'r teulu amlddiwylliannol yn Ontario.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw