Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Llyfr emynau a gomisiynwyd a chyhoeddwyd gan William Hughes, African Training Institute ym Mae Colwyn. Ar gyfer ei drydedd daith roedd am fynd â 2,000 o gopïau y llyfr sy'n cynnwys Saesneg ac Almaeneg ar gyfer y cyflwyniad a Duala (iaith Camerŵn) drwyddi draw. Mae'n bosib taw llyfr emynau cyntaf a gyheoddwyd mewn iaith frodorol Affricanaidd ydy hwn. Er na deithiodd Hughes oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae'n amlwg bod y llyfrau emynau wedi'u hanfon a'u dosbarthu. Mae’r gerddoriaeth mewn nodiant Sol-Fa, yn dangos dylanwad a chysylltiad anghydffurfiol Cymreig. Mae'r set o sganiau yn dangos y rhagymadrodd tairieithog a dewis o emynau, un â theitl Affricanaidd a dau yn gysylltiedig ag emynau Cymraeg adnabyddus.
+++
Casglwyd y delweddau fel ran o weithdy cymunedol gan Prosiect Amrywedd y Bywgraffiadur Cymreig yng Nghanolfan Diwylliant Conwy ar 2 Mai 2024.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw