Glenys James yn siarad i Mr Hugh Andrew.
Disgrifiadau
Mae Glenys James yn siarad â Mr Hugh Andrew a aned yn Llanrwst ac a ymfudodd i Ganada yn 1929. Ag yntau wedi bod yn y Llu Awyr Brenhinol yn flaenorol, daeth allan ar gynllun a gynigiwyd gan Canadian Pacific Railway i ffermio. Chwalwyd ei freuddwydion cynnar o wneud ei ffortiwn gan y dirwasgiad a'r sychder. Disgrifia ei waith caled a sut yr ychwanegodd ei natur gylchol ddi-baid at ei anawsterau. Symudodd am ychydig i'r unol daleithiau, ond erbyn hynny roedd llawer o'r gymuned Gymraeg yno yn ei hail neu hyd yn oed drydedd genhedlaeth, ac felly prin oedd y cyfleoedd iddo siarad Cymraeg. Cyfrannai at bapurau newydd ‘Y Drych,’ a ‘The Druid,’ a chanai yn y Capeli Cymraeg yn Chicago a chafodd wahoddiad gan orsafoedd radio lleol i ganu yn Gymraeg. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ymunodd â Llu Awyr Canada a theithiodd o amgylch Prydain tra ar ddyletswydd. Ar ôl y Rhyfel helpodd ailgychwyn Cymdeithas Cymry Ottawa, y credai Mr Hughes fod ganddi fwy o Gymry Cymraeg bryd hynny nag ar y cychwyn. Roedd y gymdeithas yn darparu gwasanaeth a chymuned ar gyfer ymfudwyr o Gymru i'r ardal. Ar ôl ymweld â Phatagonia ar gyfer dathliadau'r canmlwyddiant, roedd gan Mr. Hughes edmygedd mawr at y wladfa Gymraeg ym Mhatagonia, safon eu Cymraeg a'u disgyblaeth a'u gwaith caled. Er iddo ddal gafael ar y Gymraeg trwy gydol ei fywyd, gwelai ei hun fel Canadiad. Mae hefyd yn dal gafael ar draddodiadau fel yfed llaeth enwyn, fel y byddai wedi ei wneud yng Nghymru.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment