Gohebiaeth rhwng Thomas Benbow Philips ac D S Davies
Gohebiaeth gyda D S Davies o gasgliad llawysgrifau a gedwir gan Thomas Benbow Philips. Thomas Benbow Phillips (1829 - 1915) arloeswr y Wladfa Gymreig ym Mrasil rhwng 1850 - 1854. Ganwyd T. B. Phillips yn Chwefror 14, 1829 yn Llundain ac fe fagwyd ym Manceinion. Yn 1850 gyhoeddodd hysbyseb yn 1850 i hybu gwladychiad yn Rio Grande do Sul, Brasil. Ym Medi 1850, gadawodd y fintai gyntaf o Gymru ar fwrdd yr Irene am Rio Grande do Sul. Er bod tua 100 o Gymru wedi symud i Gymru Newydd erbyn 1852 a bod y sefyllfa yn addawol fel menter, erbyn Hydref 1854 roedd y Wladfa i bob pwrpas wedi diflannu. Yn dilyn marwolaeth ei wraig symudodd Thomas Benbow Phillips i'r Wladfa ym Mhatagonia yn 1872.