Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Junio
Mehefin 23, 1873
346 Ninth Avenue New York
U.S.A.

T. B. Phillips

Anwyl Gydwladwr. Derbyniasom y llythyr a anfonasoch at Mr Stuart Barnes. Dyolch i chwi am gymeryd y drafferth i nodi adroddiad mor fanol o'ch taith tua'r Wladfa Gymreig. Bydd yn dda gan filoedd ei darllen. Cyfieithais ef yn fanol i'w gyhoeddi yn y Papurau Cymreig yn y wlad hon. Yr wyf yn gobeithio yr ewch yno yn fuan. Yr ydym wedi penderfynu y caiff y Rush deithio yn uniongyrchol o New York i New Bay o hyn allan tra y bydd hi byw. Ac os gellwch chwi adeiladu Store house yn New Bay bydd yn ddigon hawdd ininau brynu llong newydd fawr. Ni chymerwn y gofal o long fechan (60 tons reg). Yr unig ffordd i gael un felly at Chuput River fydd i'r Gwladfawyr eu hunain brynu un o'r fath a gofalu am dani. Mae'r ffordd yn rhy bell oddiwrthym ni i allu trefnu masnach llong fechan.

Yr wyf fi a mintai o 60 i 70 o ymfudwyr yn paratoi at fynd yna ymhen dau neu dri mis. Byddai yn dda iawn genyf glywed eich bod chwithau wedi ym sefydlu ym Mhorth Madryn ( N. Bay). Gallech godi Gwesty yno oblegid dyna'r fan i lanio ymfudwyr. Bydd yn ddigon hawdd cael miloedd o bobl oddiyma tua'r Wladfa ond ini lwyddo i gael ffordd gysurus iddynt fyned tuag yno.

A wnewch chwi ysgrifenu ataf heb oedi unrhyw sylw a garech ei nodi i mi ac am eich barniadau chwithau. Yn awr Frawd “let us put our shoulders to the wheel “ of the Welsh Colony. Dyna ein gobaith ni fel Cenedl. Y mae eich llythyr yn sicr o wneud lles mawr.

Y mae y Capt Evans hwnw wedi ein siomi ni yn ddychrynllyd ac wedi ein colledu ni filoedd o ddoleri. Ond ni chaiff hyny ein digaloni chwaith. Pe gadawem i beth fel hyn ein llethu profem ein hunain yn anheilwng o gael gofal Gwlad ar ein hysgwyddau. Yn mlaen! Forward!! Frawd er gwaethaf pob rhwystr a'n cyferfydd. Yr ydym wedi cael anhawsderau mawrion eisoes, ond wele Byw ydym! a rhaid i ni ymwroli yn y dyfodol. Yr wyf wedi rhoddi gofal fy eglwys i fynu tuag at fyned gyda mintai i'r Wladfa – disgwyliwn fod yno erbyn Nadolig.

Mae'r Mail ar gau, rhaid i minnau derfynu.

I presume you understand Welsh writing as well as English as I understand you are an old advocate for a Welsh Colony. I am encouraged very much in my labors for the Welsh Colony Patagonia by the spirit of your report to Mr Barnes. Let us unite in our work for the advancement of the Welsh Colony on the Chuput – let us organize on a large scale.

Yn llawn gobeithion Cenedlgarol
Gorphwysaf
Yr eiddoch yn ffyddlon
D S Davies

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw