Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan Michael D Jones o'r Bala, Gogledd Cymru, ym Merthyr Tudful dyddiedig 11 Hydref 1872

Eglura Michael D Jones ei fod ym Merthyr i draddodi darlithoedd i hyrwyddo ymfudo i Batagonia. Derbyniodd lythyr gan y Parch D S Davies, 12 Bank Street, Efrog Newydd yn ei hysbysu fod y “Rush” a Capten Evans wedi ei anfon yn ôl o geg y Chupat i Buenos Aires gyda 30 o Gymry o UDA ar ei bwrdd. Roedd y mast wedi torri, y brif hwyl wedi chwythu ymaith a'r angorau ar goll. Dim ond un cwch bach o Monte Video oedd yn masnachu gyda'r Wladfa. Awgrymodd Michael D Jones gan fod y “Rush” bellach yn dda i ddim, y dylai TBP ystyried anfon cwch yno i werthu bwydydd, te, mati, coffi, siwgr, llestri pridd ac efallai blawd. Gallai ddychwelyd gyda menyn o safon uchel, caws, quillangoes, crwyn a ffwr. Nid oedd melin yno i falu'r gwenith yn foddhaol. Roedd rhwng 400 a 500 o wartheg yn y Wladfa. Eglurodd Michael D J ones fod angen dybryd am siop, a chrefodd ar Thomas Benbow Phillips i beidio â dod â diod feddwol i'r Wladfa, oherwydd roedd yn cael ei werthu i'r Indiaid. Cadarnhaodd fod masnachu gyda'r Indiaid wedi golygu elw o £1,000. Eglurodd fod Cymry UDA yn dangos diddordeb mawr yn nyffryn y Chupat. 150 oedd y boblogaeth bresennol, ond petai'r “Rush” wedi glanio, byddai'r rhifau wedi codi i 183. Addawodd anfon papurau iddo a fyddai'n cynnwys mwy o wybodaeth.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw