Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan D S Davies o swyddfa'r “Canal Steam Transportation Company, 39 Pearl Street”, Efrog Newydd, dyddiedig 21 Ionawr 1874.

Hysbysodd D S Davies Thomas Benbow Phillips y byddai parti o 50 person yn hwylio o Efrog Newydd am Batagonia ar 7 Chwefror ar y sgwner “Electric Spark”. Roedd yr ymfudwyr yma wedi prynu'r sgwner ac wedi sicrhau gwasanaeth Capten newydd oedd yn bwriadu setlo yn y Waldfa gyda'i deulu. Roedd y Capten wedi addo troi mewn i Rio Grande i weld Thomas Benbow Phillips petai'r gwyntoedd yn ffafriol. Roedd D S Davies wedi gobeithio cyfarfod gyda Thomas Benbow Phillips yn y Wladfa i gychwyn trefniadau ar gyfer y Bahia Nueva. Roedd un aelod o'r parti wedi prynu Peiriant Dyrnu am $600, yn ogystal ag offer defnyddiol. Byddai parti o 50-100 o Gymry yn hwylio ar 13 Ebrill.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw