Llythyr i Mrs Suzannah Phillips gan Thomas Benbow Phillips, 22 Gorffennaf, 1867
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at ei fam Mrs Suzannah Phillips trwy law Mrs Hallawell & Cyf, Rio Grande gan Thomas Benbow Phillips ym Mhelotas, dyddiedig 22 Gorffennaf 1867
Mynegodd Thomas Benbow Phillips ei siom nad oedd wedi clywed gan ei fam cyn hyn. Roedd pawb yn iawn, ond roedd busnes yn wael. Anfonodd Compadre Maza ei gyfarchion gorau iddi. Hysbyswyd nhw gan Ann Davis fod Mrs Moseley wedi bod yn sâl iawn, ac wedi bod yn sâl eilwaith, ond roedd yn well erbyn hyn. Nid oedd unrhyw newydd o Pelotas, roedd pawb yn iach ac yn anfon eu cariad. Anfonodd Maria das Doses ei chofion ati, ac roedd ThomasBenbow Phillips yn gobeithio y bydai hi'n ysgrifennu'n fuan iawn i roi gwybod pryd y byddai'n ymweld.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment