Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at T B Phillips gan D S Davies (yn ddiweddar o Efrog Newydd, UDA) yn San Luiz, Maranhão, Brasil 28 Ebrill 1874

Roedd y sgwner “Electric Spark” wedi hwylio o Efrog Newydd i Rio Chupat, Patagonia ar 14 Chwefror gyda 33 teithiwr a 6 morwr. Hefyd ar ei bwrdd roedd peiriant dyrnu, “pourer” a Medelwr, ynghŷd â chasgliad mawr o amrywiol offer amaethyddol. Am hanner nos ar 26 Mawrth, bu i'r llong daro bar y Tutoia ger Parnaiba, dioddef cryn ddifrod a'i dryllio'n llwyr ar y dydd Llun canlynol, 30 Mawrth. Achubwyd pob bywyd, ynghŷd â 30-40 bocs o effeithiau personol. Cawsant eu hachub gan Sais, Mr Singlers o Parnaiba, ac ar ôl cyrraedd yno, aeth Capten W Rogers a D S Davies i weld y ddau Gonswl - America a'r Ariannin. Wedyn, buont yn hwylio ar y stemar “Alcantara”. Sais oedd Mr Storry, ei Chapten. Nid oedd Conswl Ariannin yn bwriadu ymyrryd o gwbl, ond roedd Conswl America wedi gwneud popeth o fewn ei allu i'w helpu. Gellid prynu tocyn dec ar stemar o Rio Janeiro am 45 milreis ac o Barnaiba i San Louis am 15 milreis. Byddai'n rhaid iddynt werthu eu holl watsus a phob dim arall yn eu meddiant. Roedd 39 wedi goroesi, gan gynnwys 4 morwr, a fyddai'n ymadael mor fuan â phosibl. Roedd y Capten a'r Mêt yn benderfynol o deithio i Drefedigaeth Chupat, ac roedd yr holl helyntion wedi eu gwneud yn gryfach pobl. Roedd D S Davies yn eithriadol falch o'r gwladychwyr dewr. Roeddynt angen help Thomas Benbow Phillips i deithio o Rio de Janeiro i'r Drefedigaeth Gymreig, oherwydd nid oedd Conswl Ariannin yn fodlon helpu, oni bai fod y Gwladfawyr yn tyngu llw o deyrngarwch i Weriniaeth Ariannin. Gwrthodent wneud hyn, oherwydd eu bod yn sylweddoli y byddai'n cymhlethu cysylltiadau gwleidyddol y Drefedigaeth Gymreig. Byddent yn rhoi mwy o ystyriaeth iddo ar ôl cyrraedd y Wladfa. Gobeithient hwylio ar 27 Mai, a chyrraedd Rio Janeiro ymhen 11 diwrnod, fel y nododd Conswl America. Addawodd DS Davies ysgrifennu o Bernambuco neu o Rio Janeiro. Roedd pawb yn benderfynol o gyrraedd y Wladfa.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw