Skip to main content

Llythyr i Mrs Suzannah Phillips gan Thomas Benbow Phillips, 6 Medi, 1875

Disgrifiadau

Llythyr ysgrifennwyd at Mrs Susannah Phillips ym Mhelotas gan Thomas Benbow Phillips yn Rio Grande, dyddiedig 6 Medi 1875

Ymddiheurodd Thomas Benbow Phillips nad oedd wedi ysgrifennu ynghynt, ond roedd rhywbeth yn dod i'w rwystro o hyd. Fodd bynnag, roedd Mr Moseley yn mynd i Belotas, a byddai'n mynd â'r llythyr efo fo. Roedd pob dim yn iawn gartref ond bod Brenhilda fach wedi bod yn wael gyda thymheredd uchel ers rhai dyddiau. Dathlodd Tom ei ben blwydd yr wythnos flaenorol ac roedd yn biti iddi golli'r achlysur. Roedd yn dal i weithio yn Swyddfa'r Telegraff, roedd Llewelyn ac Arthur yn dal yn y ffatri gwlân ac roeddynt yn fechgyn da ar y cyfan. Roedd Mr a Mrs Cloud a'r teulu yn mynd i Rio de Janeiro ar y “Cervantes” ar 9 Medi, a byddai'n chwith iddo hebddynt. Bu Miss Margaret Davies i lawr yn Rio Grande am tua mis, ond dim ond unwaith y bu iddi alw yn y tŷ. Gwnaeth gydnabod newydd ac anghofio'r hen rai. Roedd busnes yn ddrwg iawn. Gofynnodd Thomas Benbow Phillips iddi ysgrifennu a rhoi gwybod pryd y byddai'n ymweld. Roedd Januaria a phawb yn y tŷ yn anfon eu cofion. Roedd wedi ysgrifennu'r llythyr mewn llawysgrifen fawr er mwyn iddi fedru ei ddarllen.

Cyfeiriwyd y llythyr at Mrs Phillips, yng ngofal Illm a'i Fab, Celestino S Juan, Pelotas

Owner:
Silvia Elvina Williams
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2017
Date originally created:
6/9/1875
Gwelediadau:
842
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment