Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Joao Francisco Froes, 7 Mehefin, 1851
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at Mr T B Phillips, Pelotas gan Joao Fransisco Froes o Lerpwl, dyddiedig 7 Mehefin 1851
Hysbysa J F Froes Thomas Benbow Phillips fod 13 person o Gymru wedi hwylio ar y “Naiad”, gan gynnwys David Davies, ffarmwr a'i deulu. Gobeithia fod y tir a addawyd iddynt yn barod ac yn addas i blannu cnydau o wenith, achos roedd wedi clywed i'r gwrthwyneb. Dymuna fod Thomas Benbow Phillips yn gweld David Davies ar ôl iddo gyrraedd.
Roedd 30 Cymro arall, gan gynnwys 7 teulu i hwylio ar yr “Irene” a gobeithio y byddent yn cael eu lleoli mewn anheddiad cyn iddynt gyrraedd. Dymunai J F Froes gael gwybodaeth am y trefniadau. Dywed wrth Thomas Benbow Phillips fod ei rieni yn hwylio ar yr “Irene” hefyd.
Rhestr ymfudwyr yn mynd i Rio Grande do Sul yn y llong Seisnig “Naiad” yn gadael Lerpwl ar 25 Mai, 1851:
David Davies, 41oed, o'r Rhymney, Sir Fynwy, priod, ffermwr
Jane Davies, 48 oed, o'r Rhymney, Sir Fynwy, ei wraig
Rees Davies, 9 oed, o'r Rhymney, Sir Fynwy, ei fab
Rachael Davies, 7 oed, o'r Rhymney, Sir Fynwy, ei ferch
Margaret Davies, 5 oed, o'r Rhymney, Sir Fynwy, ei ferch
William Davies, 2 oed, o'r Rhymney, Sir Fynwy, ei fab
David Davies, 40 oed, o'r Rhymney, Sir Fynwy, sengl, gwas
Ann Morgan, 18 oed, o Dredegar, Sir Fynwy, sengl, morwyn
Morgan Jones, 20 oed, o Frynmawr, Sir Frycheiniog, priod, ffermwr
Charlotte Jones, 20 oed, o Frynmawr, Sir Frycheiniog, ei wraig
Hugh Hughes, 26 oed, o Llanejog? Sir Ddinbych, priod, ffariar
Margaret Hughes, 24 oed, o Llanejog? Sir Ddinbych, ei wraig
William Hughes, 25oed o Sir Fôn, sengl, ffermwr
Rhestr y personau oedd yn mynd allan ar y llong “Irene” ym Medi 1850.
John, Samuel, Rosa a Maria Bowen (4 oedolyn)
William Davies, gwraig a phlentyn
John Davies, gwraig a phlentyn
Ebenezer Evans, gwraig a thri o blant
Rees Williams a'i wraig
Peter McHugh, gwraig a dau o blant
Henry Bentley
David Welsh, gwraig a phlant
Thomas Phillips a'i wraig
John Benbow a'i wraig
Mr Morgan, gwraig a dau o blant
Margaret a John McConnell
John Taylor?
Enwir Mrs Rosser a Mr Dendy hefyd ar ochr y dudalen
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment