Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan Rhys Thomas o Gwm Hyfryd, dyddiedig 14 Rhagfyr 1881

Dywedodd Rhys Thomas ei fod wedi ysgrifennu ychydig linellau at Mr Martin Underwood, “Comissario” gwerthfawr a fyddai'n eu rhannu ar ei siwrnai i Chubut. Eglura Rhys Thomas eu bod wedi gadael cartref ar 10 Medi a chyrraedd ar 16 Tachwedd. Gwnaethant y siwrnai mewn 32 taith, 3 cynghrair bob dydd, a threulio'r amser yn rhoi cyntun i'r anifeiliaid, chwilio am y ffordd ymlaen a hela am fwyd. Edrydd am y trafferthion a gafwyd ar y ffordd, o geunentydd cul i eira. Roeddynt wedi enwi un mynydd yn Fwlch y Gwynt. Bu'n rhaid codi pont bren i'w cario dros afon cyn cyrraedd Cwm Hyfryd. Dywedodd fod y wlad yn debyg i Gymru, gyda phant a bryn, afonydd, nentydd a blodau gwyllt. Roedd y tir yn ffrwythlon ac yn addas i dyfu cnydau o fefus a chyrens, ac roeddynt yn troi'r tir ar gyfer y gaeaf. Roedd Mr John Evans a Mr Thomas wedi ymadael yr wythnos flaenorol gyda llwyth o bost. Roedd John Davies ac Owen Jones wedi cyrraedd a dod â phost i bawb, ac roedd pobl yn falch o glywed fod y Wladfa wedi ei hachub o grafangau Mri Jones a Reed. Soniodd y byddai angen Storfa Gydweithredol yng Nghwm Hyfryd. Gofynnodd Rhys Thomas i Thomas Benbow Phillips ysgrifennu llythyr hir gyda'r troad ac anfonodd ei gofion at Mr Lewis Jones, John H Jones, Mr Pritchard a holl swyddogion y CMC.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw