Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Evan Evans, 17 Ebrill, 1851
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at T B Phillips yn Colonia da Nova Cambria, Rio Grande de Sul, gan Evan Evans, Brymawr dyddiedig 17 Ebrill, 1851
Roedd Evan Evans yn diolch i Thomas Benbow Phillips am ei dri llythyr diweddar ac yn mynegi cydymdeimlad am y ddamwain i'w fraich. Awgryma y byddai ef ei hun, oherwydd anallu dros dro Thomas Benbow Phillips i ysgrifennu llythyrau, yn gohebu gyda nifer o bapurau Cymreig i gynnwys tystiolaeth cynifer â phosibl o'r mewnfudwyr am ryddid crefyddol y Wladfa newydd. Roedd sôn y byddai mudo o Gymru yn digwydd ar raddfa fawr, ac ers cyhoeddi amrywiol lythrau yn y papurau Cymreig, ffurfiwyd nifer o Gymdeithasau. Gofynnodd dau deulu parchus tybed a fyddai Thomas Benbow Phillips yn cadw fferm i bob un ohonynt, er na allent ymfudo tan y mis Medi canlynol; y naill oedd Mr David Watkins, blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ei wraig oedd yn cadw siop, a'u tri phlentyn bach. Roedd gan Mr David Watkins eisiau fferm o 100-150 cyfer, a byddai hefyd yn cadw siop ar safle cyfleus yn ymyl ffordd. Y gŵr bonheddig arall oedd Mr William Davies, a fagwyd ar fferm, ei wraig a'i blentyn, ac roedd yntau yn gofyn am fferm o 100 cyfer. Roedd Evan Evans wedi claddu ei fab hynaf ugain oed yn ystod y pythefnos cynt, ac roedd un arall o'i feibion yn anhwylus, felly nid oedd yn gallu ystyried symud i Nova Cambria eto. Teimlai Evan Evans, pe byddai'n cael tocyn am ddim iddo ef a'i deulu deithio, y byddai cannoedd, os nad miloedd o Gymry yn ei ddilyn i'r Wladfa.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment