Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan D S Davies, 12 Tachwedd, 1873
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan D S Davies yn Scranton, Pennsylvania, UDA dyddiedig 12 Tachwedd 1873
Diolchodd i T B Phillips am ei lythyrau dyddiedig 18 Awst 18 a 27 Medi 1873. Datganodd D S Davies ei siom enfawr am frad Capten Evans. Adrodd iddo weithio'n galed i gasglu $12,000 i brynu'r “Rush”, a'i pharatoi ar gyfer taith. Roedd yn dal mor wladgarol â Thomas Benbow Phillips, ac yn trefnu y byddai llong yn llawn ymfudwyr dethol yn teithio i'r Wladfa, yn gobeithio ymgartrefu yn New Bay ac ar y Valdes. Awgrymodd prynu llong fechan i'w defnyddio i deithio nôl a blaen o New Bay, ac ymhen amser, gellid trefnu teithio i Port Desire a Santa Cruz, a thrwy hynny ddal gafael ar arfordir Patagonia. Awgrymodd ffyrdd gwahanol o brynu sgwner fechan. Gobeithiai y byddai 80-100 o ymfudwyr cefnog yn hwylio i New Bay, gan gyrraedd ym mis Mawrth. Byddai ganddynt ddigonedd o bres i'w fuddsoddi ar ôl cyrraedd i Chupat. Roedd Thomas Benbow Phillips wedi bod yn ymchwilo i hinsawdd, iechyd, pridd a ffrwythlondeb Patagonia, ac roedd erbyn hyn yn amser i'r cynllunio ddwyn ffrwyth. Byddai'n anfon rhestr o'r teithwyr ymhen mis, yn ogystal â'r manylion am bryniant y Sgwner Hwylio “Sunbeam”. Y gost fyddai $4,000. Gofynnodd D S Davies am ateb buan gyda'r newyddion pe byddai T B Phillips wedi llwyddo i wireddu'r hyn y cyfeiriwyd ato yn ei lythyr 27 Medi. Gobeithiodd y byddai'r ateb yn ei gyrraedd cyn iddo hwylio, y byddai Thomas Benbow Phillips yn ei gyfarfod yn y Wladfa, ac y byddai ei gyd-deithwyr cefnog yn barod i fuddsoddi arian i ddechrau busnesau yn New Bay. Dymunodd i'r ateb gael ei anfon i 346 Ninth Avenue, Efrog Newydd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment