Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llongyfarchodd Evan Evans Thomas Benbow Phillips ar ei lwyddiant yn ffurfio Nova Cambria ac yn ei sicrhau fod pobl De Cymru yn gefnogol iawn, ond y byddai llawer yn dibynnu ar dderbyn gohebiaeth bositif gan y rhai oedd eisoes wedi ymfudo. Gofynna i Thomas Benbow Phillips am nodded i'w gyfeillion, sef William Davies, John Davies, Ebenezer Evans a Rees Williams a'u teuluoedd, a hefyd Morgan Jones o Frynmawr a Daniel Davies o'r Rhymni gyda'u teuluoedd hwythau. Ymddiheura Evan Evans na all ystyried ymfudo oherwydd y ddyled roedd yn gorfod ei had-dalu i gyfeillion am Bolisi Bywyd roeddynt wedi ei brynu ar ei ran, ac roedd yn gorfod dal i dalu £10 yn flynyddol yn ôl iddynt. Roedd yn awyddus i weld y Drefedigaeth yn ffynnu, ac awgrymodd y dylid ystyried y canlynol: cofrestru'r Gwladfawyr wrth iddynt gyrraedd a nodi enwau eu perthnasau pwysicaf yng Nghymru rhag ofn iddynt farw yn ddi-blant ac yn ddi-ewyllys; gwneud arolwg o ffyrdd drwy'r Wladfa er mwyn i bobl orfod trefnu bod ffyrdd preifat yn cyfarfod y brif ffordd ac nid i'r gwrthwyneb; codi tai o faint uchel a sylweddol, gyda ffenestri mawr, er mwyn arbed gorfod ychwanegu atynt yn y dyfodol; codi tai yn ymyl ffynnon o ddŵr clir.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw