Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at T B Phillips Ysw, yn Nova Cambria, Pelotas, Rio Grande do Sul, Brasil, gan Evan Evans, Brynmawr dyddiedig 12 Rhagfyr, 1851

Diolchodd Evan Evans i Thomas Benbow Phillips am y parseli a gyrhaeddodd yn ddiogel, ac eglurodd iddo gyfieithu'r llythyr, a'r rheiny o eiddo Morgan Jones, David Davies a John Davies a'u hanfon, un bob wythnos, i'r “Amserau”. Oherwydd fod newyddion anffafriol am fywyd yn Nova Cambria wedi eu cyhoeddi mewn cylchgronau Cymreig, ni fu llawer o sôn am ymfudo yn ystod y misoedd diwethaf. Roedd Evan Evans yn gofyn a fyddai modd anfon llythyrau mwy calonogol ato, er mwyn i gannoedd ystyried ymfudo. Roedd, fodd bynnag, yn nodi fod pryderon gan y Cymry am ryddid crefyddol ym Mrasil, gan mai Pabyddiaeth oedd crefydd y wlad. Mynega eto ei bryder na all fforddio talu £10-£11 y flwyddyn tuag at ei Bolisi Bywyd, gan holi a fyddai modd cynorthwyo tlodion gyda'u costau ymfudo a'u galluogi i ad-dalu'r gost dros gyfnod o nifer o flynyddoedd, gan fod cost ymfudo i Awstralia yn rhad iawn. Cyfeiria Evan Evans at deulu tlawd iawn ond gonest o rieni a thair merch oedd yn awyddus iawn i ymfudo, ond heb fodd i dalu eu ffordd. Byddent yn
ad-dalu'r ddyled trwy waith caled, petai'r tocyn teithio yn cael ei dalu drostynt. Gofynna Evan Evans i Thomas Benbow Phillips wneud ymholiadau am John ac Isaac Griffiths, y cryddion. Roedd gwraig a mam-yng-nghyfraith John yn poeni am nad oeddynt wedi derbyn ateb i'w llythyr. Roedd ei wraig a'i blant yn fodlon ymfudo neu ei groesawu adref i Gymru.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw