Copi Cytundeb y Gwladfawyr Rhif 5, arwyddwyd 8 Hydref, 1851 yn Colonia da Nova Cambria gan Thomas Benbow Phillips
Disgrifiadau
Cytundeb
Copi Cytundeb y Gwladfawyr Rhif 5, arwyddwyd 8 Hydref, 1851 yn Colonia da Nova Cambria gan Thomas Benbow Phillips gyda chroes gan Morgan Jones. Y tystion oedd Thomas Phillips, David Davis and Ebenezer Evans.
Cynnwys manylion cytundeb gwerthu o 100 erw o dir ar y raddfa o 10/- yr erw i Morgan Jones, yr arian i'w ad-dalu mewn rhanddaliadau o fewn chwe mlynedd, gan Thomas Benbow Phillips, Bartlett James a Joao Rodrigues, perchennog y Wladfa. Pan fyddai holl amodau'r gwerthiant wedi eu cwblhau yn y dyfodol, byddai Morgan Jones yn derbyn y gweithredoedd eiddo i'w dir. Hefyd yn y Cytundeb, roedd Morgan Jones yn cael sicrwydd o ddarpariaeth nwyddau am y deuddeg mis cyntaf a hefyd unrhyw gymorth y byddai ei angen ar ôl hynny.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment