Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Stuart Barnes, 24 Mawrth, 1873
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at T B Phillips ar fwrdd y Llong “Rush” gan Stuart Barnes [Mewnforiwr a Masnachwr Comisiwn Nwyddau Gogledd America] yn Calle Reconquista 72, Buenos Ayres, 24 Mawrth 1873
Amgaeodd Bŵer Atwrnai i Thomas Benbow Phillips weithredu ar ei ran ynghylch y Llong “Rush”, a phetai'r Capten yn ei harwain i mewn i borthladd Montevideo, byddai'r Pŵer Atwrnai yn rhoi pob hawl i Thomas Benbow Phillips weithredu ar ei ran. Byddai'r llong yn cael ei thraddodi i ofal John Davies, Ysw, Asiant i Lloyds Americanaidd, a fyddai'n rhoi gwarchodwr ar ei bwrdd i warchod y llong hyd nes byddai Stuart Barnes ei hun yn cyrraedd. Nid oedd gan y Capten hawl i fynd ar ei bwrdd, ac nid oedd cyfathrebu i fod. Ni ddylid cario dim oddi ar ei bwrdd, ar wahân i fagiau Thomas Benbow Phillips ei hun, ac roedd o i fod i warchod y mymryn o eiddo Stuart Barnes oedd yn weddill ar ei bwrdd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment