Skip to main content

Hanes Cwm Elan

A postcard showing Carreg Ddu dam in colour

Mae Cwm Elan yn dirwedd sydd wedi cael ei siapio gan natur a gweithgarwch pobl. Dros filoedd o flynyddoedd, mae pobl wedi byw, teithio a gweithio yn y cymoedd ucheldirol hyn. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fodd bynnag, newidiodd yr ardal yn sylweddol pan adeiladwyd rhwydwaith o argaeau a chronfeydd dŵr i gyflenwi dŵr i Birmingham, dinas yn Lloegr oedd yn tyfu’n gyflym. Newidiodd y prosiect hwn y dirwedd am byth, gan foddi cartrefi, ffermydd a chymunedau. Mae’n enghraifft bwysig o sut y gall penderfyniadau am adnoddau naturiol gael effaith gymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd bellgyrhaeddol.

Heddiw, mae Cwm Elan yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i archwilio ystod eang o bynciau o fewn Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys hanes, daearyddiaeth, gwyddoniaeth, peirianneg, cynaliadwyedd a bioamrywiaeth. Mae hefyd yn annog dysgwyr i ystyried safbwyntiau gwahanol ar ddefnydd tir ac adnoddau naturiol, gan gynnwys cwestiynau am berchnogaeth, cadwraeth, datblygiad diwydiannol a throsglwyddo dŵr Cymru i ardaloedd y tu allan i Gymru. Drwy ddefnyddio ffotograffau, mapiau, ffynonellau hanesyddol a straeon lleol, gall dysgwyr ymchwilio i sut mae pobl a lleoedd yn newid dros amser, gan ddatblygu eu sgiliau ymholi, meddwl yn feirniadol a chyfathrebu.

 

Lle arbennig yw Cwm Elan, a chanddi dirwedd, hanes a stori unigryw. Mae Cysylltiadau Elan: Pobl, Natur a Dŵr yn rhan o Gynllun Partneriaeth Tirwedd sy'n cael ei gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri gyda'r nôd o warchod a chyfoethogi'r ardal.

 

Cysyniadau Allweddol: 

  • Y Dyniaeathau
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Iechyd a Llesiant
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Dysgu Gydol Oes

You must be logged in to leave a comment