Skip to main content

Y Diemwnt Du a Thu Hwnt

The photograph shows a large group of workmen around Major David Davies, later Lord Davies of Llandinam, chairman of the Ocean Coal Company, together with members of his family during a VIP visit to Treharris pit

Y Diemwnt Du a Thu Hwnt: Dwylo Cudd ac Iachau’r Tir

Dyma adnodd arloesol sydd wedi'i gynllunio i ysbrydoli dysgwyr i archwilio gorffennol, presennol a dyfodol diwydiannol Cymru.

Trwy lens cofnodion Morgannwg, mae'r deunydd yn datgelu cyfraniadau cudd ar draws pedair thema:

  • Adnoddau Naturiol a Chyfoeth 
  • Arloesi a Moeseg 
  • Pobl a Lleoedd 
  • Iechyd ac Ymgyrchu Cymunedol 

Rhan bwysig o’r adnodd hwn yw herio naratifau traddodiadol. 

Mae'r thema Pobl a Lleoedd yn canolbwyntio ar rolau pobl o dras y mwyafrif byd-eang, menywod, plant ac anifeiliaid, ac mae wedi'i hategu gan ddau fideo pwrpasol sy'n archwilio hanes glowyr Du. Mae'r ffilmiau hyn yn portreadu natur fyd-eang meysydd glo'r 19eg ganrif, gan ddangos sut y daeth y byd i Gymru yn yr un modd ag yr aeth Cymru i'r byd.

Mae'r thema Arloesi a Moeseg yn cwestiynu pwy sy'n cael ei ddathlu neu ei anwybyddu mewn hanes. Trwy archwilio'r ‘pam’ y tu ôl i'r naratifau hyn, mae dysgwyr yn datblygu lens feirniadol wrth archwilio'r angen am wneud yn siŵr bod arloesedd yn foesegol er mwyn sicrhau lles cymunedol yn y dyfodol.

Mae Iechyd ac Ymgyrchu Cymunedol yn dathlu'r gweithredu ar y cyd a luniodd genedl, gan dynnu sylw at ymarferwyr o dras y mwyafrif byd-eang a oedd o gwmpas cyn y GIG. Trwy fyfyrio ar gofebion, mae'n gwahodd dysgwyr i ddychmygu tirwedd gynhwysol o goffa sy'n anrhydeddu'r rhai sydd wedi cael eu hanwybyddu'n hanesyddol.

Mae'r gweithgareddau'n seiliedig ar brofiadau ac yn canolbwyntio ar themâu i wneud y mwyaf o ddysgu trawsddisgyblaethol a chynefin.

You must be logged in to leave a comment