Blog

Photoscoot: prosiect ffotograffiaeth 'ddoe a heddiw' ar gyfer defnyddwyr sgwteri a chadeiriau olwyn

Yn y blog hwn, mae ein blogiwr gwadd, Deanna Groome, yn sôn am brosiect Photoscoot eu teulu i gofnodi hanes lleol, prosiect gafodd ei ysbrydoli gan gopi o dywyslyfr bwrdeistref Machynlleth – y 'Borough Guide' – a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1911. Eglura hefyd fel y bu iddi hi a'i mam, Audrey, ymgymryd â'u prosiect diweddaraf yn nhref glan-môr boblogaidd Aberystwyth yn ystod cyfnod clo Gwanwyn 2020.

Treftadaeth Ddiwydiannol Cymru – Casgliad Ffotograffig W. E. Bowen

Ym mis Awst 1981 dechreuodd ffatri British Aluminium yng Nglyn-nedd ar ei hwythnos olaf o gynhyrchu a chyda hynny, daeth diwedd cyfnod ar bennod arall o dreftadaeth ddiwydiannol Cymru. Yn ffodus, rydym wedi cyhoeddi casgliad y diweddar W. E. Bowen sy'n dogfennu yr wythnos olaf hon yn Rheola Works ar wefan Casgliad y Werin Cymru. Yn y blog hwn, mae ei fab, Roy Bowen, yn rhannu ei sylwadau am waith ei dad a phwysigrwydd dathlu'r cyfraniad a wneir gan y gweithlu yn ei gymuned.

Tu ôl i'r Mwgwd

Yn y realiti newydd sydd wedi ymffurfio yn ystod cyfnod cloi COVID-19, mae gwisgo mwgwd yn arfer y bydd angen i nifer ohonom ddechrau ymgynefino ag o, yn arbennig felly wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio. Dyma flog sy'n edrych ar wahanol fathau o fygydau sydd wedi cael eu gwisgo dros y canrifoedd, a phwysigrwydd mygydau mewn gwahanol ddiwylliannau.

Treftadaeth Gymreig-Eidalaidd

Straeon gan deuluoedd a ddaeth i Gymru o wahanol ranbarthau o'r Eidal, wedi eu trosglwyddo o'r naill genhedlaeth i'r llall – straeon sy'n cael eu hadrodd gyda balchder a hoffter.

Cyfoethogi ein Casgliadau - Casgliad Martin Ridley

Yma mae tri aelod o staff o’r Llyfrgell Genedlaethol yn rhannu eu gwybodaeth a’u barn am gasgliad ffotograffig Martin Ridley a ychwanegwyd at Gasgliad y Werin yn ddiweddar. Mae’r delweddau hyn yn rhoi darlun byw o fywyd yng Nghymru yn 1905 a hynny trwy lygad ffotograffydd masnachol o Bournemouth.

Gweithio gyda Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru

Mae Casgliad y Werin Cymru wedi bod yn gweithio gyda Ffederasiwn Amgueddfa ac Orielau Celf Cymru a’u llywydd, Victoria Rogers, ar fenter newydd, gyffrous i sicrhau bod gwahanol eitemau o blith casgliadau amgueddfeydd ar hyd a lled y wlad yn cael eu rhannu ar ein gwefan.

Trwy lygad y camera: Ceinws Archives

Ym mis Tachwedd, dechreuodd Casgliad y Werin Cymru ar y broses o ddigido a llwytho dros fil o ddelweddau sy’n gysylltiedig gyda Chorris a’r ardal gyfagos ar y wefan. Ffotograffau du a gwyn yn cofnodi gwahanol agweddau ar hanes lleol, ac yn arbennig felly hanes y diwydiant chwarelyddol yn yr ardal yw’r casgliad hwn, ffrwyth 15 mlynedd o waith y ffotograffydd Ray Gunn, o Geinws, Esgairgeiliog. Mae Ray a’i wraig, Julia, wedi bod yn ychwanegu deunydd i’w cyfrif, Ceiws Archives, oddi ar 2011, yn amrywiaeth o ffotograffau a dogfennau, deunydd sain a ffilmiau byrion.

O Dan y Môr a'i Donnau

Mae moroedd tiriogaethol Cymru yn ymestyn 12 milltir fôr o’r arfordir ac yn hynod o gyfoethog o ran eu bywyd gwyllt. Ond mae’r moroedd hyn – sydd a’u harwynebedd bron â bod yn dyblu maint Cymru – hefyd yn gyfoethog o ran eu hanes a’u chwedlau.

Cyrraedd y cant!

O Garn Fadryn i Ben-y-bont ar Ogwr, o Grwbin i Wrecsam, o Gwmorthin i Grangetown, mae dros gant o wahanol furluniau ‘Cofiwch Dryweryn’ bellach i’w gweld ar wefan Casgliad y Werin Cymru.

Uchelgais Ddiwylliannol

Mae Keir Griffiths yn un o’r garfan gyntaf o hyfforddeion ledled Cymru sydd wedi ymuo gyda’r prosiect Uchelgais Ddiwylliannol – prosiect sy’n cefnogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau gweithle yn y sector treftadaeth. Ar hyn o bryd mae’r hyfforddai 23 oed ar leoliad yn y Llyfrgell Genedlaethol sy’n rhan o’r rhaglen sy’n cael ei harwain gan Creative & Cultural Skills a Llywodraeth Cymru drwy grant Sgiliau ar Gyfer y Dyfodol HLF. Yn ddiweddar, mae Keir wedi bod yn cyfrannu at wefan Casgliad y Werin trwy ychwanegu cynnwys sy’n dathlu hanes cyfoethog Cymru a’i phobl.

Tudalennau