Tu ôl i'r Mwgwd

Ddechrau Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Prydain bod gwisgo gorchudd wyneb, neu fwgwd, yn orfodol wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr, ac er nad yw hynny yn wir yma yng Nghymru ar hyn o bryd, mewn amgylchiadau lle y gallai hi fod yn anodd i ni gadw dwy fedr i ffwrdd oddi wrth eraill, argymhelliad Llywodraeth Cymru yw y dylem ddefnyddio gorchudd wyneb tair haen, a hwnnw heb fod yn orchudd meddygol. Mae yna amryw byd o fideos wedi eu rhannu ar y cyfryngau cymdedithasol ac ar YouTube ynghylch sut i fynd ati i wneud eich mwgwd eich hun ac yn wir, mae sawl un wedi bod wrthi’n brysur yn creu – rhai’n llwyddiannus, a rhai ddim cystal! Ydi creu eich mwgwd eich hun, tybed, yn helpu i chi berchnogi’r syniad o wisgo gorchudd ar yr wyneb ac felly o gymorth i gynefino efo gwneud hyn?
Mae’r ffotograff isod gan John Davies, myfyriwr yng Ngholeg y Cymoedd, Merthyr yn un fydd yn aros yn y cof am sbel go hir.

Mae’r ffotograff yn rhan o gyfres a grewyd er mwyn dangos sut mae bywydau pobl wedi newid yn ystod pandemig COVID-19. Mae’n cynrychioli llawer mwy na dim ond yr arfer o wisgo mwgwd: i mi mae’n symbol o alar am yr hyn a gollwyd, am leisiau na chafodd eu clywed yn ystod y cyfnod hwn, am fywydau bregus ein pobl ifanc – ond hefyd, ar yr un pryd, mae’n symbol o gymryd cyfrifoldeb, o fod yn ystyriol o eraill, ac o fod yn barod i wynebu’r dyfodol. Mae’n cwmpasu’r cyfan oll. Beth am gymryd golwg ar gasgliadau myfyrwyr eraill o Goleg y Cymoedd sydd wedi bod yn creu delweddau sy'n gysylltiedig gyda Phobl Cymru yn Ystod Cyfnod y Cloi, 2020.

Mae’n hagwedd ni yn y gorllewin tuag at wisgo mwgwd ar yr wyneb wedi bod yn un gymhleth er erioed, ac yn hanesyddol, mae’n weithred sy’n cael ei chysylltu yn aml gydag elfennau negyddol: cosb, neu ddrwgweithredu, rhyfel neu berygl. Rhyfedd fel mae rhywun yn gallu derbyn gwisgo mygydau fel rhan o realiti bywydau pobl eraill, mewn diwylliannau erailll, neu gyfnodau eraill heb gwestiynu fawr ddim.

Fodd bynnag, Dyma un gorchudd wyneb digon sinistr sydd wedi cosi fy chwilfrydedd i – ac mae o mewn gwirionedd ar begwn eithaf be fyddai rhywun yn ei alw’n fwgwd. Ei bwrpas oedd diddymu braint yr unigolyn i fynegi ei hun:

Atgynhyrchiad o gap Sgotaidd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd yma, lle mae’r mwgwd lledr yn un â’r benwisg. Fe’i gwisgid, mae’n debyg, gan garcharorion yng Ngharchar Rhuthun, Sir Ddinbych, a’r nod oedd llyffytheirio eu cyfathrebu gan wneud yn siŵr nad oeddent yn siarad â’i gilydd pan gaent eu gadael yn rhydd o’u cell ar gyfer ymarfer corff neu er mwyn mynd i’r ysbyty neu fynychu’r capel.

Ond mewn cyd-destunau eraill ac mewn diwylliannau eraill, mae mygydau yn gallu rhoi rhyddid i rywun. I’r bobl hynny oedd yn troedio strydoedd Fenis yn y bymthegfed ganrif pan gychwynodd yr arfer o gynnal carnifal o ddathliadau cyn y Garawys, roedd gwisgo mwgwd yn caniatáu iddynt amddiffyn eu hunain rhag cael eu hadnabod, ac yn cael gwared o wahaniaethau cymdeithasol. Yn draddodiadol, mae'r weithred o wisgo mwgwd y tu allan i'r carnifal swyddogol hefyd wedi'i gwreiddio'n ddwfn yn niwylliant pobl Fenis, ac mae'n arwydd o fentro y tu hwnt i'r hyn oedd yn waharddedig, a hynny yng nghyd-destun byd busnes a chariad.

Yng ngharnifal hynafol Fenis, fel yng Ngharnifal Caerdydd ein dyddiau ni, er enghraifft, mae gorchuddio’r wyneb a gwisgo mwgwd yn gallu bod yn rhywbeth i ymhyfrydu ac ymfalchïo ynddo, yn ogystal â bod yn ffordd o ddathlu traddodiadau’r gorffennol ac o fynegi eich hun mewn ffordd greadigol. Dyma ffotograff hyfryd o aelodau o’r Gymuned Ffilipino yng Nghaerdydd (FCIC) mewn gwisgoedd Masskara yng Ngharnifal Caerdydd 2013, traddodiad sy’n deillio yn wreiddiol o’r 1880’au yn ynysoedd y Philipinau:

Daw dyddiau carnifal yn ôl i ninnau, rywbryd. Ond bydd ein bydolwg ôl-bandemig yn wahanol i ddechrau arni, yn ein hymwneud a’n gilydd o ddydd i ddydd ac yn ein perthynas â’n gorffennol, gan gynnwys, fwy na thebyg, y ffordd rydyn ni’n ymateb i ddelweddau hanesyddol. Mae’r ffotograf hwn gan Geoff Charles yn dangos efaciwis o Benbedw yn cyrraedd Croesoswallt, gan roi cipolwg inni ar fywyd yng nghysgod yr Ail Ryfel Byd:

Mae teimlo ein bod yn gallu ymgysylltu gyda threftadaeth ddiwylliannol digidol yn ystod ac wedi cyfnod y cloi yn eithriadol o bwysig, ac fe fydd, gobeithio, yn ein hysgogi ninnau i rannu ein profiadau yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Mae Casgliad y Werin Cymru wrthi ar hyn o bryd yn gweithio gyda phartneriaid i greu capsiwl amser digidol er mwyn casglu stori Cymru yn ystod cyfnod y cloi.

Oes ganddoch chi ffotograffau o fygydau, neu straeon eraill sy’n gysylltiedig gyda phandemig COVID-19 yr hoffech eu rhannu efo ni? Anfonwch eich eitemau trwy Facebook neu Twitter

Clawr: mwgwd ifori – yma yn gynrychiolaeth o ffiwgr Rhufeinig trasig, a'r capan caethwas a ryddhawyd, y pilleus, yn symbol o ryddid yn y byd Rhufeinig.

This article was posted by:

Elena Gruffudd's profile picture

Elena Gruffudd