arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Cyfoethogi ein Casgliadau - Casgliad Martin Ridley

Cymraeg

Yma mae tri aelod o staff o’r Llyfrgell Genedlaethol yn rhannu eu gwybodaeth a’u barn am gasgliad ffotograffig Martin Ridley a ychwanegwyd at Gasgliad y Werin yn ddiweddar. Mae’r delweddau hyn yn rhoi darlun byw o fywyd yng Nghymru yn 1905 a hynny trwy lygad ffotograffydd masnachol o Bournemouth.

William Troughton, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae William yn rhannu’r stori am waith Martin Ridley, am sut y daeth y Llyfrgell i fod â’r casgliad yma yn ei meddiant, ac am un o’i hoff ddelweddau:

‘Ganwyd Martin John Ridley yn Reading yn 1861. Rhywbryd yn yr 1880’au fe roddodd gorau i’w swydd fel clerc i fasnachwr, a dod yn ffotograffydd proffesiynol gan symud i Bournemouth. Yna, tua 1893 aeth i bartneriaeth gyda gŵr o’r enw Harry Miell i ffurfio cwmni Miell & Ridley, Bournemouth & Bristol. Mae tystiolaeth ar gael sy’n awgrymu bod Miell yn canolbwyntio ar waith stiwdio, a Ridley ar dirluniau. Ond mae’n bosib na fu i’r bartneriaeth hon bara’n hir. Ni wyddom cymaint â hynny am fywyd Ridley ei hun. Serch hyn mae yna anfoneb sydd wedi goroesi o 1906 sy’n cynnig cyflwyniad i’w waith yn ystod yr oes Edwardaidd. Ymysg y gwasanaethau a’r nwyddau sy’n cael eu cyflenwi ganddo fel ffotograffydd masnachol mae Landscape, Marine & Architectural Views, Animal studies, Artists Figures & rustic studies, Christmas, New Year & Birthday Cards, Pictorial Postcards, Book of Views a Stereoscopic Views.

‘Mae’r anfoneb hwn yn dyddio o uchafbwynt oes aur y cerdyn post a ddechreuodd ychydig flynyddoedd ynghynt ac a barhaodd hyd 1918. Fel y gallai rhywun ddychmygu, mae casgliad Martin Ridley yn cynnwys sawl golygfa glan-môr, pier, parciau a thraethau, sef bara menyn unrhyw gyhoeddwr cerdyn post. Fodd bynnag, mae yna ddelweddau eraill sydd yn wahanol iawn i’r disgwyl, ac yn amrywiol e.e. Ward Gwendoline, Clafdy Caerdydd, Doc y Rhath a York Street yng Nghasnewydd.

‘Mae’r golygfeydd o Abertyleri o ddiddordeb arbennig. Ni wyddom pam mae cymaint o olygfeydd o Abertyleri – efallai mai ar gyfer prosiect na welodd olau dydd y tynnodd nhw, megis llyfr o olygfeydd (‘book of views’).

 

‘Dyma olygfa o Church Street, Abertyleri. Mae ei naws digymell mewn sawl ffordd yn hollol nodweddiadol o Ridley. Dyma stryd oedd yn llawn bwrlwm masnachu a hynny mewn tref a oedd bryd hynny yn un ffyniannus. Dyma, yn fy marn i, yw gwir natur ffotograffiaeth ddogfennol; mae’n dal tameidiau o realiti heb fod unrhyw fwriad diwylliannol iddo. Cofiwch bod y ddelwedd hon wedi ei chymryd ar gamera plat llawn ar stand drichoes a hynny o flaen y byd a’i bobl, ac eto llwyddodd i gofleidio naturioldeb … Does dim dianc rhag realaeth gignoeth yn ei ffotograffiaeth, er na cheir arwydd iddynt gael eu tynnu gydag unrhyw awydd i symbylu newid gwleidyddol na chymdeithasol.

‘Roedd yna elfen o siawns annisgwyl o bleserus ynghlwm wrth ddyfodiad y asgliad yma i’r Llyfrgell Genedlaethol. Parhaodd Ridley i redeg ei fusnes hyd ei farwolaeth yn 1936 – ac oherwydd afiechyd daeth i ddibynnu fwyfwy ar gymorth ei ferch, a gadwodd y busnes i fynd wedi hynny. Erbyn 1964, gwnaed cais am i’r adeilad gael ei ailddatblygu, ac ymddangosodd stori yn y Bournemouth Echo yn sôn nad oedd dim amdani ond gwaredu’r 6000 o blatiau gwydr oedd yn weddill (gwerth tunnell a hanner ohonynt!). O ddarllen am hyn, fe wnaeth Mrs Mole, dynes fusnes oedd â chryn grebwyll, lwyddo i brynu’r cyfan am £5 gan eu storio nes ei hymddeoliad yn 2007. Oddi ar hynny, mae proses drylwyr o ddidoli wedi digwydd a chartrefi sefydliadol wedi eu canfod ar gyfer gweddill y casgliad.’

***

Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Jason sy’n bwrw golwg dros ddelweddau trefol a diwydiannol Martin Ridley, ac yn trafod potensial y casgliad unigryw hwn:

‘Ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, cyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd economi Cymru yn ffynnu, wedi’i yrru gan lo a dur. Ehangodd trefi a dinasoedd de Cymru yn gyflym wrth i bobl heidio i’r ardal i weithio. Mae lluniau Martin Ridley, gafodd eu tynnu tua 1905, yn rhoi cipolwg prin i ni o’r pwynt hynod ddiddorol hwn mewn hanes.

‘Mae Ridley yn dogfennu’r pyllau glo, y ffatrïoedd a’r dociau, y rheilffyrdd a’r tramiau, y cynnydd mewn parciau trefol enfawr a’r strydoedd mawr. Mae’n dangos maint yr adeiladu a’r datblygu ar y pryd, gydag ysgolion, ysbytai, eglwysi a llyfrgelloedd newydd yn codi ymhobman. Nid yw rhai golygfeydd wedi newid llawer hyd heddiw, ond ni ellir adnabod eraill, newid y tu hwnt i bob adnabyddiaeth gan ddau ryfel byd, cwymp diwydiant a gorymdaith ‘cynnydd’. Mae’r diffyg ceir (a tharmac) yn ymddangos ychydig yn od mewn golygfeydd na fyddai fel arall yn edrych allan o le yn y 1940’au neu’r 1950’au. Diolch byth, mae’r holl luniau o geffylau wedi’u clymu y tu allan i siopau yng nghanol dinasoedd yn ein hatgoffa bod bywyd yn wahanol iawn yn 1905.

‘Caffaelwyd y casgliad hwn o ryw 800 o ddelweddau gan y Llyfrgell Genedlaethol tua deng mlynedd yn ôl ac yn ddiweddar sicrhawyd ei fod ar gael yn ddigidol ar gatalog y Llyfrgell. Gan fod y Casgliad allan o hawlfraint Mae’r Llyfrgell hefyd yn gallu rhannu’r casgliad ar lwyfannau trydydd parti.

‘Mae’r Llyfrgell yn falch iawn o rannu’r lluniau gyda Chasgliad y Werin Cymru. Mae’n llwyfan perffaith i ymgysylltu pobl â’r casgliad mewn gwirionedd, i ddechrau trafodaethau, sbarduno atgofion ac annog ailddefnyddio. ‘Mae’r delweddau hefyd wedi’u huwchlwytho i Wikimedia Commons, gan sicrhau eu bod ar gael i’w defnyddio mewn erthyglau Wikipedia ac mae data’r catalog wedi’i drosi i ddata agored cysylltiedig, gan ei gwneud yn haws i’w rannu a’i archwilio. Drwy gyhoeddi’r data hwn ar wefan Wikidata gallwn ddechrau dadansoddi'r data gan ddefnyddio gwasanaeth ymholiadau Wikidata.


Y pethau sy’n cael eu portreadu fwyaf yn y casgliad.

‘Mae Wikidata hefyd wedi helpu i gyfoethogi’r data ar gyfer y casgliad trwy gysylltu ein data ni gyda data allanol ychwanegol. Felly, gallwn wneud pethau megis casglu cyfesurynnau ar gyfer llefydd sydd wedi cael eu tagio yn y casgliad. Mae’r data cyfesurynnol hefyd wedi cael ei rannu gyda Chasgliad y Werin Cymru fel bod y delweddau yn ymddangos ar eu porwr mapio.’


Llefydd sy’n cael eu portreadu yn y casgliad ar fap rhyngweithiol.

Elena Gruffudd, Casgliad y Werin Cymru

Yn y byd fymryn yn swreal sydd ohoni heddiw o beidio crwydro a chymdeithasu mae’r ddelwedd gan Martin Ridley o blant ar y traeth yn Ninbych-y-pysgod gydag Ynys Catrin yn y cefndir yn chwa o awyr iach.

 

Rydw i wrth fy modd efo eglurder delweddau Martin Ridley wrth iddo gynnig cipolwg inni ar fywyd yng Nghymru dros ganrif a mwy yn ôl; mi allwch chi weld manylion gwisgoedd y cyfnod – megis ar hetiau’r merched bach yma. Mae’r delweddau yma yn eich tynnu chi mewn, nes eich bod, ar amrantiad, yno ynghanol prysurdeb Commercial Street, Casnewydd, yn ochr-gamu heibio i bobl ar y palmant. A bron na allwch chi glywed bwrlwm sgwrs y merched ar eu ffordd o’u tro yn Cliff Walk, Penarth.

Beth, tybed, ddaeth â’r pedwar plentyn yma yn neu dillad gorau i Ddinbych-y-pysgod yn 1905 – ai trip Ysgol Sul, neu bicnic teuluol efallai? Mae Ridley wedi llwyddo i ddal golygfeydd eraill mwy anffurfiol o ddiwrnod allan ar lan y môr, megis un o draeth Penarth sy’n dal naws holl brysurdeb yr achlysur. Ond rwy’n cael fy nenu yn ôl at y plant ar draeth Dinbych-y-pysgod; wedi codi ffrogiau a throwsus i gael padlo maen nhw, y pedwar petrus yma ynghanol y llanw, ac mae ehangder y môr yn neu hamgylchynu. Prin iawn oedd yr adegau hynny y byddai fy mhlant i, pan oedden nhw’n fach, yn fodlon aros yn llonydd am eiliad i dynnu llun ar lan-y-môr. Rhedeg ar eu pennau i’r tonnau yn llawn gwichian fydden nhw gan amlaf! Ond sefyll mae’r pedwar plentyn yma, a threipod Martin Ridley yn y dŵr efo nhw mae’n debyg; dgaipyn o gyferbyniad.

Y tu ôl iddyn nhw mae Ynys Catrin, lle ag iddo hanes diddorol. Am ganrifoedd lawer, eglwys fechan oedd yr unig adeilad ar yr ynys, ond chwalwyd ei gweddillion pan adeiladwyd Caer Palmerston – sydd i’w gweld yma yn llun Martin Ridley. Cwblhawyd y gaer ar orchymyn yr Arglwydd Palmerston yn yr 1870au a hynny er mwyn gwarchod yr Iard Ddociau Brenhinol yn Noc Penfro, a’r angorfa yn Aberdaugleddau a oedd, yn ôl y gred ar y pryd, dan fygythiad ymosodiad gan luoedd yr Ymerawdr Napoleon III o Ffrainc. Ar lanw isel mi allwch chi gerdded draw i’r ynys fach yma o Draeth y Castell, ac mae hi’n werth dringo ei choglwyni a chael edrych o’ch ôl ar y porthladd lliwgar yn y pellter.

Pan godir cyfyngiadau COVID 19 fe ddaw cyfnod o ymgyfarwyddo i ni, o gofleidio ein rhyddid unwaith eto – cael gadael ein caerau, blasu’r heli ar yr awel wrth grwydro traethau sir Benfro, ac, yn bwysicaf oll, cael rhannu gwên wyneb yn wyneb.’

Mae dau gant o ddelweddau o gasgliad Martin Ridley eisoes wedi eu rhannu ar wefan Casgliad y Werin, a bydd chwe chant o eitemau ychwanegol gan y ffotograffydd enigmatig hwn yn cael eu rhannu gyda chi dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Os oes ganddoch chi hoff ddelwedd gadewch sylw a rhowch wybod i ni!

Darlun Elena Gruffudd