Gweithio gyda Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru

Mae Casgliad y Werin Cymru wedi bod yn gweithio gyda Amgueddfa ac Orielau Celf Cymru a’u llywydd, Victoria Rogers, ar fenter newydd, gyffrous i sicrhau bod gwahanol eitemau o blith casgliadau amgueddfeydd ar hyd a lled y wlad yn cael eu rhannu ar ein gwefan.

Yn yr haf, yn ystod y cyfnod yn arwain i fyny at ddigwyddiad Pride Cymru 2019 yng Nghaerdydd, er enghraifft, cyflwynwyd eitemau gan amgueddfeydd oedd berthnasol i gymunedau LGBTQI. Un eitem boblogaidd oedd Crys-T Cardiff Dragons Clwb Pêl-Droed LGBTI yng Nghaerdydd; cafodd ei y ffotograff ei gyfrannu gan Amgueddfa Caerdydd ynghyd â’r hanes am sut cafodd y clwb ei ffurfio yn y lle cyntaf.

Trwy gydweithio’n agosach gyda’r sector rydym yn sicrhau bod y straeon sydd wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn ein cymunedau yn parhau i gael eu hamlygu ar wefan Casgliad y Werin, ac yn parhau i gyfoethogi stori pobl Cymru. Y thema ddiweddaraf i ni fod yn edrych arni ar y cyd gyda’r Ffederasiwn yw Byd Gwaith y Cymry ac mae’r eitemau bellach yn fyw ar y wefan, gan gynnwys y llun o’r ddau ŵr bonheddig, Jack Evans a Fredrick Lambourne, Coetsmyn yn Nhŷ Tredegar ar droad yr ugeinfed ganrif yn sefyll yn falch yn eu hetiau a’u cotiau hirion. Daeth y cyfraniad hwn i law gan amgueddfa Tŷ Tredegar.

Hyd yma, mae cyfraniadau wedi dod i law gan Amgueddfa’r Fenni, Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Amgueddfa Wehyddu’r Drenewydd, amgueddfa’r Bathdy Brenhinol, amgueddfa Tŷ Tredegar ac amgueddfa Andrew Logan Museum of Sculpture, a diolch i’r cyfranwyr hyn mae gennym ystod o wahanol eitemau sy’n rhoi cipolwg ar y gwahanol fathau o waith a diwydiannau sydd wedi bod yng Nghymru ar hyd y canrifoedd. Gallwch ddilyn y ddolen hon i weld casgliad o gyfraniadau Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru ar thema Byd Gwaith y Cymry. Mae gan amgueddfeydd eraill, megis Amgueddfa Ceredigion ac Amgueddfa Arberth hefyd gyfraniadau diweddar sy’n disgyn o fewn y thema hon.

Mae eitem Amgueddfa Ceredigion, sef y llun ffotograff uchod o ‘Owen’s Café o 1910 yn nodweddiadol o’r llu o fusnesau oedd yn llenwi tref Aberystwyth ar droad yr ugeinfed ganrif.

O’r diwydiannau trymion traddodiadol i fyd masnach ac o fyd gwaith yn y dref i fyd gwaith yn y wlad, mae cyfraniadau cyffrous yr amgueddfeydd yn pwysleisio’r etifeddiaeth gyfoethog sydd gennym o safbwynt yr amrywiol ddiwydiannau sydd wedi siapio hanes Cymru.

Bwydo’r Dychymyg

Un o’r eitemau hynaf, ac yn sicr, un o’r eitemau mwyaf deniadol i gael ei gyflwyno gan yr amgueddfeydd yw’r pocedi clymu ymlaen hyn mewn arddull sampler sy’n rhan o gasgliad Amgueddfa Caerfyrddin. Tybir eu bod yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Fel yr oedd yn draddodiad gyda gwaith samplo, byddai perchennog y gwaith yn aml yn pwytho ei henw yn rhan o’r patrwm fel sydd wedi digwydd yma.

Mae’n debyg mai cymharol ychydig o bocedi brodwaith o’r fath o’r 18fed ganrif sydd erbyn hyn yn cael eu cyflwyno o’r newydd i amgueddfeydd, felly dyma eitem sy’n sicr yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o dreftadaeth tecstiliau a gwisgoedd. O’r 17g hyd hanner olaf y 19g, roedd gan y rhan fwyaf o ferched o leiaf un pâr o bocedi a byddent yn eu defnyddio mewn ffordd nid anhebyg i fag llaw heddiw. Yn gyffredinol, byddai’r pocedi y cael eu gwisgo o dan sgertiau’r merched, a cheid agoriad yn sêm ochr y sgert er mwyn cael mynediad rhwydd iddynt.

Yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd arferion cymdeithasol yn dechrau tynnu merched o bob haen o’r gymdeithas y tu allan i’r cartref, ac roedd hyn y cyd-fynd gyda’r cynnydd ym mhoblogrwyrdd yr arfer o ddefnyddio ategolion fel y pocedi clymu ymlaen. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd gwelwyd mwy o fynd a dod o ran pobl yn ymweld â thai ei gilydd a mwy o nwyddau y cael eu cyfnewid; byddai morynion yn byw i mewn gyda’u cyflogwyr, a byddai nifer o dai hefyd y gweithredu fel siopau neu weithdai.

Ond beth oedd hanes y pocedi hyfryd sy’n rhan o gasgliad Amgueddfa Caerfyrddin? O gofio eu bod yn anweledig i bob pwrpas ac na chaent eu gweld yn gyhoeddus, gallai rhywun gwestiynu pam fyddai rhywun yn trafferthu addurno pocedi o’r fath. Ond i ferched gyda cymharol ychydig o breifatrwydd yn eu bywydau a dim llawer o fodd i brynu eitemau personol, byddai cymryd amser i bersonoli eitemau mor breifat yn siŵr o fod wedi dod â boddhad arbennig iddyn nhw ac yn bwysig o safbwynt hunanfynegiant. Wyddon ni ddim pa fath o fywyd oedd gan Mary Davis o orllewin Cymru yn niwedd y ddeunawfed ganrif, ond mae’r gofal a’r balchder fu’n rhan o greu – a chadw – ei phocedi yn tystio eu bod nhw’n bwysig iawn iddi.

Os oes ganddoch chi eitemau teuluol sy’n adrodd hanes byd gwaith yng Nghymru? Cysylltwch â ni: [email protected] neu beth am fynd ati i lwytho delweddau ar y wefan?

This article was posted by:

Elena Gruffudd's profile picture

Elena Gruffudd