arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Treftadaeth Gymreig-Eidalaidd

Cymraeg

Mae gen i atgofion melys iawn o ymweliadau â chaffi Penguin yr Antionazzis ym Mangor yn y saithdegau pan fydden ni’n ymweld â’r dref ar dripiau siopa teuluol – a ger mynedfa hen ganolfan Wellfield yr arferai’r caffi fod bryd hynny, yn llawn stêm a bwrlwm. Roeddwn i wedi fy nghyfareddu efo’r peiriannau coffi sgleiniog oedd yn hishan yn brysur. Dydw i ddim yn credu i fy rhieni fentro cael yr un baned ohonynt, ond roedd paneidiau te’r Penguin yn llawn croeso.

Mae hanesion busnesau teuluol yn thema gyffredin sydd yn ymddangos dro ar ôl tro gyda’r eitemau sydd wedi eu cyflwyno gan gyfrif Treftadaeth Gymreig-Eidalaidd, yn gaffis, parlyrau hufen iâ a siopau sglodion a physgod – ffrwyth mentergarwch ac awydd cryf yr Eidalwyr i lwyddo yn eu gwlad mabwysiedig. Gwaith tymhorol a ddenodd yr Eidalwyr yn y lle cyntaf, ac fel mae Anita Arcari, un o’r rhai sefydlodd y cyfrif Treftadaeth Gymreig-Eidalaidd yn ei egluro yn rhan gyntaf ei stori am deuluoedd Eidalaidd ardal Abertawe, roedd y daith i Gymru o bentrefi bychan, tlodaidd mynydd-dir ardal Picinisco yn rhanbarth Frosinone, sy'n rhan o Ddyffryn Comino yng nghanolbarth yr Eidal yn un arwrol a dweud y lleiaf. Ond roedd yr awydd i greu gwell bywyd iddynt eu hunain, eu dycnwch a’u gweledigaeth yn rhywbeth a gadwodd ei chyndeidiau i fynd nes iddynt gyrraedd diwedd y daith. Ail, neu weithiau drydydd cyrchfan oedd Abertawe wedi iddynt fudo i’r DU, ac fe ddechreuodd hynny mor bell yn ôl â’r 1880au i rai teuluoedd.

Mae Anita Arcari yn gyn-ddarlithydd sydd wedi ymddiddori yng nghefndir ei threftadaeth ers sawl blwyddyn.

Meddai: "Rwyf wastad wedi dweud bod gen i’r gorau o’r ddau fyd. Rwy’n gwerthfawrogi ac yn trysori fy nhreftadaeth Gymreig ac Eidalaidd fel ei gilydd, ynghyd â’r hyn sy’n debyg ac sy’n wahanol ynddynt. Mae fy hoff atgofion yn cynnwys y cyfuniadau annisgwyl ond cymharus o fwydydd Cymreig ac Eidalaidd a hefyd y cariad tuag at gerddoriaeth sy’n gyffredin i’r ddwy genedl. Roedd fy mam a dau o’i brodyr yn gantorion dull operatig da, a byddai fy nhad yn aml yn chwarae’r piano neu’r accordion yn gyfeiliant iddynt. Roeddwn i hefyd wrth fy modd yn gwrando ar straeon fy nhad am fywyd fy nhad-cu a mam-gu yn yr Eidal, a sut y bu i’w deulu o ddod i Gymru o’u fferm anghysbell heb ddim yn eu pocedi, ond â chalon llawn gobaith.

 

 

"Fy hoff lun o’r casgliad (sy’n dyddio o tua 1922) heb os yw’r un o fy nhad-cu a mam-gu y tu allan i’r Arcari Palace Café. A’r rheswm am hyn yw ei fod o’n dangos – ac yn wir yn symbol – o fentergarwch pobl yr Eidal a ddaeth yma heb ddim byd, ond a oedd yn benderfynol o greu bywyd gwell iddynt eu hunain yn eu gwlad mabwysiedig.

"Mae’n bwysig iawn bod stori fy nheulu, a stori’r holl bobl ddewr yna a wnaeth yr un daith yn cael cymaint â phosib o gyhoeddusrwydd. Mae yna wirionedd y neu stori, ymgysg yr holl wybodaeth anghywir a chyfeiliornus sydd allan yna. A dweud y gwir, mae eu stori nhw wedi fy ysbrydoli i ysgrifennu nofel sydd wedi cael peth llwyddiant (The Hokey Pokey Man, Y Lolfa). Mae yna debygrwydd rhwng stori fy nheulu â straeon am ymfudo heddiw.

"Roedd eu gallu anhygoel i fentro dod i wlad newydd, i ymfudo, gan ymdoddi i’r gymdeithas a dysgu iaith newydd yn rhywbeth i’w ganmol ynddo’i hun. Ond roedd y ffaith iddyn nhw wedyn gael eu derbyn fel aelodau llawn o’u cymunedau lleol, a chael eu gwerthfawrogi, hyd yn oed yn fwy arbennig. Mae angen i’w stori gael ei hadrodd a’i dathlu – y mae’n stori o obaith, dewrder ac ysbrydoliaeth. Mae gwefan Casgliad y Werin yn gwneud yn siŵr bod y stori honno ar gael i’r cyhoedd yn ehangach, ac mae’n diolgelu’r hanes ar gyfer cenedlaeth heddiw – a chenedlaethau’r dyfodol."

Mae Paulette Pelosi, sy'n ffrindiau gyda Anita Arcari, hefyd wedi ei hysbrydoli i rannu ei stori. A hwythau'n rhannu'r un cefndir ac wedi eu magu mewn caffis teuluol yn Abertawe, maen nhw hefyd yn rhannu yr un goeden deuluol sy'n mynd yn ôl i Picinisco yn nghanolbarth yr Eidal, gyda llawer o dystiolaeth bod nifer o briodasau Pelosi-Arcari wedi digwydd.

"Mae fy hoff atgof o dyfu i fyny gyda fy nhreftadaeth Eidalaidd wedi cynyddu yn ei bwysigrwydd wrth i amser fynd heibio ac erbyn hyn, mae yna eflen ychydig yn gomig iddo hefyd. Roedd fy rhieni yn gweithio’n galed iawn yn rhedeg ein busnesau a’n caffis. Cyffredin iawn oedd ein cartref – roedden ni’n byw uwchben a thu ôl y siop, ac yn aml byddai ystafelloedd yn cael eu defnyddio fel ystorfeydd … ac roedd yna wastad focsys pren hiron o sbageti Teodoro Di NolaNaplaidd yn cael eu danfon atom ni. Ychydig yn ôl, dois o hyd i Catologo Generale fy niweddar dad, sef catalog cyffredinol o’r holl fathau o basta roedden nhw’n arfer ei werthu. Mae yna olwg carpiog arno erbyn hyn, ond mi alla i weld enw a chyfeiriad y cyflenwr: Cozzolino’s yn Lerpwl. Roedd yn rhaid i fy nhad archebu ganddyn nhw yn y pumdegau a’r chwedegau cynnar gan nad oedd galw mawr am basta bryd hynny, fel y mae yna, yn amlwg, erbyn heddiw.

,

"Felly y tu mewn i’r bocsys pren hir roedd pacedi hir o sbageti, wedi eu pecynnu’n hyfryd mewn papur lapio glas llachar, papur cryfryd y byddech chi’n sylwi arno yn unrhywle. Fel y dywedais i, roedd fy rhieni yn gweithio’n galed – heb unrhyw wyliau – er mwyn talu am fy addysg yn Ysgol Gwfaint St Winifrede yn Abertawe. Roedd yn rhaid prynu fy llyfrau ysgol o siop Uplands Bookshop; roedden nhw’n ddrud ar y pryd, ac felly ro’n i’n gwybod bod angen i mi gymryd gofal da ohonyn nhw – ac mi fyddwn i yn cymryd gofal, gan fy mod i’n hoff iawn o fy llyfrau!

"Fe wnaeth Papa orchuddio bob llyfr yn y papur glas o’r pecynnau sbageti! Mae’n siŵr fy mod i wedi sefyll allan, o feddwl am y peth nawr … yn arbennig felly i rywun oedd yn gyfarwydd â phasta Eidalaidd o’r fath! Fe wnaeth y rhan fach – ond hynod bwysig yma – o fy nhreftadaeth Eidalaidd gyfrannu at fy newis o deitl ar gyfer fy stori fer yng nghasgliad gwasg Honno, Even the Rain is Different (2005), sef ‘Schoolbooks in Spaghetti Paper’!"

 

 

"Fy hoff ffotograff yn y casgliad Treftadaeth Gymreig-Eidalaidd yw hwnnw ohonof fi yn ferch fach wedi gwisgo ar gyfer yr Offeren ar y Sul yn Eglwys Dewi Sant, Abertawe, gyda fy mam, y tu mewn i Dillwyn Café fy rhieni. Mae’r llun yma, gafodd ei dynnu tua 1960 (cefais fy ngeni yn 1954) wir yn cynrychioli, o safbwynt ffotograffiaeth, beth oedd e’n ei olygu i dyfu fyny mewn caffi, ac yn arbennig felly i blentyn o gefndir Eidalaidd a chrefydd Gatholig – sef cael tynnu fy llun yn fy nillad dydd Sul, dillad gorau – gan gynnwys y menyg gwynion! Cafodd y llun ei dynnu cyn inni fynychu’r Offeren ar y Sul; roedd fy nhad yn ffotograffydd brwd, ond mi fentra i ddweud fy mod i, yn fy ngwisg smart, o bosib yn haeddu gwell cefndir ffotograffaidd. Ond mae’n rhaid ei fod o’n gwneud synnwyr perffaith i fy nhad fanteisio ar y cyfle i dynnu llun sydyn wrth inni adael am yr Offeren.

"Mae’r holl “symbolau” o fywyd y caffi i’w gweld yn y llun – y peiriant pwyso Avery hollbwysig er enghraifft, ar gyfer pwyso chwarteri o losin; câi’r amrywiol jariau o loshin eu cadw ar silffoedd yn y cefndir, wedi eu cuddio yn anffodus gyda’r tudalennau papur newydd y byddai fy nhad yn neu defnyddio er mwyn eu hamddiffyn rhag golau haul cryf. Yna, dyna’r til solat cyn oes yr arian degol i’r chwith o fy mam. Mae yna flwch casglu ar gyfer elusen ger y til hefyd. Mae fy mam a minnau wedi gwisgo’n smart, ac rwy’n gwybod bod lle i bopeth a phopeth yn ei le yn y siop – roedd ganddon ni safonau uchel i’w cadw.

Bron i drigain mlynedd ers i’r llun yn siop y teulu gael ei dynnu, mae ei threftadaeth Gymreig-Eidalaidd mor bwysig ag erioed i Paulette Pelosi.

 

 

"Mae fy nhreftadaeth Eidalaidd o bwysigrwydd mawr i mi; yn fy ngenynnau … yn fy ‘nhras’ y mae gwaith ymchwil wedi ei wneud arno yn ôl i’r 1660au – mae pob cenhedlaeth wedi ei eni, ei fagu ac yn amlach na heb, wedi marw yn ardal hardd Picinisco, rhanbarth Frosinone, yng nghanolbarth yr Eidal. Defnyddir y geiriau cucina povera (cegin dlawd) ganddom ni ddisgrifio’r math o fwyd roedd fy nghyndeidiau yn ei fwyta – ac roedd cenedlaethau o fy nghyndeidiau wedi bod yn ymladd tlodi, gan fyw ar ddeiet maethlon a oedd, yn naturiol, yn cynnwys llysiau a ffrwythau ffres, lleol, ffacbys megis ffa cannellini ac, wrth gwrs, pasta! Rwy’n coginio’r cynhwysion hyn i gyd yn rheolaidd yn fy nghartref yng Nghymru. Rwy’n teimlo fy mod wedi etifeddu cryfderau oedd yn rhan gynhenid o anian fy nghyndeidiau: bod yn gryf, bod yn wrol, cadw wyneb, La bella figura… gwisgo’n dda er mwyn edrych a theimlo’n dda… a llawer mwy!"

Darlun Elena Gruffudd