Blog

Dadorchuddio Hanes: Profiad D-Day Lyra gyda'r BBC

80 mlynedd yn ôl, ar y 6ed o Fehefin 1944, oedd D-Day, ac mae rhaglen CBBC yn dod â digwyddiadau hanesyddol y diwrnod hanfodol hwn yn fyw. Un o'r sêr ifanc yn y rhaglen hon yw Lyra, disgybl o Aberystwyth, sy'n rhannu ei phrofiadau personol, ei mewnwelediadau, a'i hadfyfyrio ar y broses ffilmio. Trwy ei llygaid hi, cawn ddealltwriaeth ddyfnach o arwyddocâd D-Day a'r effaith barhaol sydd ganddo ar ein byd heddiw.

Yr Holocost a Chymru

Ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost, fe wnaethom wahodd Klavdija Erzen, Rheolwr Rhaglen a Phrosiect Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru, i ddweud mwy wrthym am eu prosiect a’r gyfres o 20 o adnoddau addysgu rhad ac am ddim y maent wedi’u creu a’u cyhoeddi ar ein gwefan a Hwb, llwyfan dysgu digidol Llywodraeth Cymru, sy’n atgoffa myfyrwyr bod yr Holocost wedi effeithio ar bobl o’u cymunedau nhw yn Gymru.

Hughesovka; Cysylltiad Cymru ag Wcráin

Efallai bod Wcráin a rhanbarth Donbas yn ymddangos yn bell o Gymru. Ond mae cysylltiadau hanesyddol rhwng y ddau le. Mae’r blog hwn, a ysgrifennwyd gan Dr Victoria Donovan, Uwch Ddarlithydd mewn Rwsieg a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Rwsiaidd, Sofietaidd, Canol a Dwyrain Ewrop ym Mhrifysgol St Andrews, yn trafod hanes y rhyfel rhwng Rwsia ac Wcráin, mudo’r Cymry a diwydianeiddio yn rhanbarth Donbas a’r berthynas gymhleth rhwng treftadaeth Ewropeaidd ac ideoleg imperialaidd Rwsia.

Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd bod Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru ar wefan Casgliad y Werin wedi ennill Gwobr Cyfraniad at Les Grŵp Archifau a Threftadaeth Cymuedol (CAHG), ac mae’r blog hwn yn cymryd golwg ar sut mae’r archif wedi datblygu i gynnwys bron 400 o eitemau, gan rannu profiadau cyn-filwyr ac amlygu straeon sydd heb gael eu hadrodd cyn hyn. Maent yn cynnwys cyfraniadau gan gyn-filwyr o’r Ail Ryfel Byd yn bennaf, ond hefyd gan rai a alwyd ar gyfer y Gwasanaeth Cenedlaethol rhwng 1947–1961 a nifer fechan a wasanaethodd mewn rhyfeloedd diweddarach ac a gyflawnodd ddyletswyddau cadw heddwch.

Cardiau post o’r gorffennol: llyfrgelloedd yn rhannu hanes ein trefi glan-môr drwy gardiau post

Yn y blog hwn cawn gipolwg ar hanes cymdeithasol dwy dref glan-môr yng ngogledd a de Cymru drwy ddetholiad o gardiau post hanesyddol o ddiwedd y 1890au i’r 1930au sydd wedi eu cyfrannu gan Lyfrgell y Rhyl a Llyfrgell y Barri (Llyfrgelloedd Bro Morgannwg).

Rhew a Glo - hanes teulu Crandon

Magwyd Elaine Dacey, sydd bellach yn byw yn Sheffield, ym mhentref Pantyscallog ger Merthyr Tudful yn y 1950au.  Roedd y rhan fwyaf o’i hynafiaid yn byw ac yn gweithio ym Mhantyscallog, Penydarren, Dowlais a Merthyr yn y 19eg a’r 20fed ganrif, ond fe wnaeth ei thad-cu, Albert Crandon, fel llawer o Gymry eraill dros y blynyddoedd, fentro ymhellach i ffwrdd i chwilio am waith, ac am gyfnod bu ef a’i deulu ifanc yn byw yn America. Yma cawn rannu atgofion Elaine Dacey am ei theulu, ei bywyd ym Mhantyscallog, ac antur fawr ei thad-cu yn America yn yr 1920au a’r 1930au.

‘Dim ond fory tan y ffair’

Mae tref glan-môr Cricieth yng Ngwynedd nid yn unig yn adnabyddus am ei chastell ond hefyd am y ffeiriau sydd wedi eu cynnal yn y dref ers cyn cof. Mae diogelu’r hanes hwnnw, ac amrywiol straeon, caneuon  a llên gwerin sy’n ymestyn yn ôl sawl canrif, wedi bod yn un o amcanion y prosiect ‘Enwau, Chwedlau a Chân’  yn ddiweddar fel rhan o Gynllun Cymunedol Cricieth i bontio’r cenedlaethau.

Archif Cof: Helpu Pobl sy'n Byw gyda Dementia

Yn y blog yma mae Reina van der Wiel (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) a Catalena Angele (Casgliad y Werin Cymru) yn trafod pam y sefydlwyd yr Archif Cof ar wefan Casgliad y Werin Cymru a'i phwysigrwydd wrth hwyluso hel atgofion gyda phobl sy'n byw efo dementia.

WiciPics: rhoi treftadaeth adeiledig Cymru ar gof a chadw

Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol sy'n egluro sut allwch chi gyfrannu ffotograffau o leoliadau a fydd yn helpu i gyfoethogi cynnwys Wicipedia eich ardal leol. O adeiladau rhestredig, hen gapeli a chestyll i feddygfeydd ac ysgolion, bydd y delweddau hyn yn cael eu dal mewn archif yn Llyfrgell Genedlaethol Cyrmu ac yn cael eu cyhoeddi ar wefan Casgliad y Werin Cymru.

Casgliad Ffotograffig Vernon David Emmanuel ar Casgliad y Werin Cymru

Yma, mae ein blogiwr gwadd, Graham Tudor Emmanuel yn sôn am etifeddiaeth ei dad a’r casgliad ffotograffig helaeth sydd ar adnau gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Bydd 500 o eitemau digidol o gasgliad Vernon David Emmanuel ar gael yn fuan ar wefan Casgliad y Werin, a byddant yn cynnwys delweddau o gapeli ac eglwysi yn sir Gaerfyrddin yn ogystal â golygfeydd o amrywiol safleoedd diwydiannol yn ne Cymru. Yn y cyfamser, mae 100 o ddelweddau arbennig iawn o’r casgliad hwn sy’n dangos bywyd ym Mrynbuga, Sir Fynwy, yn y cyfnod Edwardaidd eisoes yn fyw ar y wefan.

Tudalennau