Hughesovka; Cysylltiad Cymru ag Wcráin

Efallai bod Wcráin a rhanbarth Donbas yn ymddangos yn bell o Gymru. Ond mae cysylltiadau hanesyddol rhwng y ddau le. Mae’r blog hwn, a ysgrifennwyd gan Dr Victoria Donovan, Uwch Ddarlithydd mewn Rwsieg a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Rwsiaidd, Sofietaidd, Canol a Dwyrain Ewrop ym Mhrifysgol St Andrews, yn trafod hanes y rhyfel rhwng Rwsia ac Wcráin, mudo’r Cymry a diwydianeiddio yn rhanbarth Donbas a’r berthynas gymhleth rhwng treftadaeth Ewropeaidd ac ideoleg imperialaidd Rwsia.

Gwrthdaro yn Wcráin

Ar 24 Chwefror 2022, gwaethygodd Rwsia ei hymosodiadau ar Wcráin. Er bod nifer o gwmnïau newyddion gorllewinol wedi disgrifio hyn fel “dechrau” rhyfel, mewn gwirionedd mae’r gwrthdaro wedi bod yn digwydd yn barhaus yn Wcráin ers 2014. Yn dilyn protestiadau ledled y wlad yn erbyn penderfyniad yr arlywydd ar y pryd, Yanukovych, i wrthod arwyddo cytundeb gyda’r UE, dechreuodd mudiad gwrth-chwyldroadol mewn sawl lle yn nwyrain Wcráin. Gyda chefnogaeth gudd gan Rwsia, trodd hyn yn gyflym yn rhyfela hybrid, ac yn ardaloedd dwyreiniol rhanbarthau Donetsk a Luhansk - a elwir gyda’i gilydd yn Donbas - sefydlwyd “gweriniaeth y bobl” yn answyddogol. Ar yr un pryd fe wnaeth Rwsia feddiannu Penrhyn y Crimea, gan gynnal refferendwm ffug.

Yn 2014-2015, cynigiwyd cyfres o gytundebau rhyngwladol o blaid safbwynt Rwsia, a elwir yn Gytundebau Minsk, i atal yr ymladd. Fodd bynnag, ni ddaeth yr ymladd i ben, a than Chwefror 2022, parhaodd y rhyfel fel gwrthdaro cyson ar ddwyster isel. Mae’r wyth mlynedd o ryfel yn Wcráin wedi arwain at drychineb ddyngarol. Ers 2014, mae mwy na 14,000 o ddinasyddion Wcráin wedi’u lladd a thua 43,000 wedi’u hanafu, heb gyfrif y marwolaethau a’r anafiadau o ganlyniad i’r ymladd diweddar. Rhwng 2014 a 2022, cafodd tua 1.6 miliwn o bobl eu dadleoli o’u cartrefi oherwydd y gwrthdaro, a drafftiwyd 400,000 o bobl i ymladd.

Wrth i drais gan Rwsia waethygu ym mis Chwefror 2022, cafodd llawer o’r bobl eu dadleoli am yr eildro, gan ail fyw’r trawma o 2014-2015 ar ôl gwneud bywydau newydd iddyn nhw eu hunain yn y rhanbarthau a reolir gan lywodraeth Wcráin yr oeddent wedi ailsefydlu ynddynt.

Cysylltiad Cymru â’r Wcráin

Efallai bod Wcráin a rhanbarth Donbas yn ymddangos yn bell o Gymru, ond mae cysylltiadau hanesyddol rhwng y ddau le. Mae Donbas yn dalfyriad ar gyfer Basn Glo Donet (Donets Coal Basin: Don-Bas) ac mae’n dirwedd sy’n gyfoethog mewn glo a mwyn haearn.  Roedd pobl nomadig (Tatar a Nogai) a Cosaciaid yn byw yn yr ardal ond fe wladychwyd y tiroedd hyn gan Ymerodraeth Rwsia yn yr 16eg a’r 17eg ganrif wrth iddi ehangu tua’r de.

Darganfuwyd glo am y tro cyntaf yn Donbas ym 1721, ac ar ôl hynny comisiynodd Ymerodraeth Rwsia nifer o arolygon ac astudiaethau i fapio adnoddau tanddaearol cyfoethog y rhanbarth. Roedd mwyngloddio wedi bod yn digwydd yn Donbas ers diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, ond wrth i Ymerodraeth Rwsia ddiwygio ei pholisi cyllidol a gwahodd cyfalafwyr o dramor i ddatblygu’r diwydiannau glo a dur y rhanbarth, daeth y diwydiant glo yn fwyfwy pwysig i economi’r ardal.

O’r 1860au hyd at y Chwyldro Bolsieficaidd ym 1917, pan ddaeth chomiwnyddiaeth i rym, roedd Donbas wedi ei phoblogi gan entrepreneuriaid cyfalafol o dramor – o Wlad Belg, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Ffrainc, yr Unol Daleithiau, a’r DU, ymhlith lleoedd eraill. Symudodd y bobl hyn i’r rhanbarth i fanteisio ar y marchnadoedd newydd. Ymhlith y diwydianwyr cyfalafol hyn roedd John Hughes o Ferthyr Tudful, a symudodd i dalaith Ekaterinoslav (rhanbarth Donetsk erbyn hyn) ym 1869 i sefydlu cymuned fwyngloddio. Enwodd y gymuned ar ei ôl ei hun, Hughesovka. Newidwyd yr enw i Stalino yn ddiweddarach, yna ym 1961 cafodd ei ail-enwi eto yn Donetsk. Cyn y rhyfel, Donetsk oedd y ddinas fwyaf yn y rhanbarth.

Hughesovka

Mae hanes Hughesovka yn aml yn cael ei adrodd fel stori am arloeswyr Cymreig dewr a fentrodd i’r tir diffrwyth dwyreiniol i ddatblygu diwydiannau mwyngloddio yno a gwneud eu ffortiwn. Ac wrth ddarllen y llythyrau archifol a chardiau post a gedwir yn Archif Ymchwil Hughesovka yng Nghaerdydd, mae’n amlwg fod llawer o’r ymfudwyr Cymreig hynny yn ddewr ac uchelgeisiol gan adael eu bywydau a’u teulu ar ôl i geisio gwneud rhywbeth ohonyn nhw’u hunain, a dringo i fyny’r ysgol gymdeithasol ar adeg pan oedd Prydain yn wynebu dirwasgiad economaidd a phan oedd cyfleoedd gwaith yn brin.

Ond mae yna ochr arall i’r stori hefyd. Roedd y wladfa Brydeinig yn Hughesovka yn lle cymharol freintiedig o’i gymharu â’r amodau truenus yr oedd gweithwyr lleol o Ymerodraeth Rwsia (Wcrainiaid, Rwsiaid, Armeniaid, Almaenwyr, Groegiaid, Iddewon, ac eraill) yn byw ac yn gweithio ynddynt. Tra bod y Cymry’n byw mewn byngalos taclus yr oedd Hughes wedi’u hadeiladu ar eu cyfer, yn cynnal te partis ac yn perfformio mewn clybiau drama, roedd gweithwyr lleol yn aml yn byw wyth i ystafell mewn cytiau pridd neu’n aros mewn barics gorlawn lle’r oedd teiffoid a cholera yn rhemp.

Roedd gan lawer o’r gweithwyr Cymreig swyddi rheoli a pheirianneg, yn goruchwylio gweithdai a mwyngloddiau unigol. Ar y llaw arall, roedd llafurwyr lleol (llawer ohonynt yn weithwyr amaethyddol tymhorol) yn gweithio oriau hir mewn amodau peryglus dan ddaear. Roeddent yn aml yn yr ysbyty yn dilyn damweiniau yn y gwaith. Roedd bywyd yn galed i bawb yn Hughesovka, ond i rai, roedd yn anoddach nag i eraill.

Y Chwyldro Bolsieficaidd

Pan gipiodd y Bolsieficiaid rym yn 1917, ffodd y Cymry ac ymsefydlwyr Prydeinig eraill Hughesovka o’r wlad. Gwnaethant eu ffordd i Ganada, yr Unol Daleithiau, Ffrainc a Norwy, ac mewn rhai achosion, yn ôl i’r DU, er mai dim ond ychydig a ddaeth yn ôl i Gymru. Llwyddodd rhai i fynd ag arian a phethau gwerthfawr yr oeddent wedi’u cronni gyda nhw. Gadawodd eraill heb ddim a bu’n rhaid iddynt ailadeiladu eu bywydau eto o’r dechrau.

Yn ystod y cyfnod Sofietaidd, o dan gomiwnyddiaeth, cafodd hanes buddsoddiad tramor yn Donbas, gan gynnwys hanes Hughesovka, ei gyflwyno fel stori am ecsploetiaeth gyfalafol: darluniwyd rheolwyr tramor fel fampiriaid yn bwydo ar chwys a gwaed y gweithlu lleol. Er bod rhywfaint o wirionedd yn hyn – heb os nac oni bai roedd gweithwyr yn cael eu ecsploetio er budd cyfalafwyr tramor – roedd hefyd yn ddehongliad camarweiniol o hanes. Nid oedd y ffin rhwng cyfalafwyr tramor a llafurwyr lleol yn gwbl glir: erbyn 1917, roedd rhai Prydeinwyr wedi bod yn byw yn Hughesovka ers sawl cenhedlaeth. Roeddent wedi priodi ag Wcrainiaid a Rwsiaid ac yn cymysgu ieithoedd – Wcreineg, Rwsieg, Saesneg a Chymraeg.

Ideoleg y ‘Byd Rwsiaidd’

Cafodd rhannau o ranbarthau Donetsk a Luhansk, gan gynnwys dinas Donetsk (Hughesovka), eu meddiannu gan ymwahanwyr gyda chefnogaeth Rwsia yn 2014. Roeddent yn dadlau eu bod yn gweithredu i amddiffyn y ‘Byd Rwsieg’ [Russkii mir]. Syniad yr ideoleg hon yw bod tiriogaethau Rwsieg eu hiaith y tu allan i ffiniau Rwsia yn ffurfio uned gymdeithasol â Rwsia oherwydd eu bod yn rhannu hanes, traddodiadau a diwylliant. Mae’r ideoleg hefyd yn cael ei defnyddio fel cyfiawnhad dros y rhyfel presennol, gyda’r honiad nad yw ardaloedd Rwsieg eu hiaith Wcráin yn bodoli fel gofod diwylliannol sydd ar wahân i Rwsia.

Fodd bynnag, mae hanes Hughesovka, a nifer o drefi diwydiannol eraill ledled Donbas gafodd eu hariannu gan ddiwydiannwyr tramor, yn dangos bod yr ideoleg hon wedi’i hadeiladu ar sylfeini hanesyddol diffygiol. Mae hanes a diwylliant Rwsiaidd yn rhan o ddiwylliant Donbas, ond mae hefyd yn rhan o hanes a diwylliant Prydain, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Ffrainc, America ac, yn bwysicaf oll, Wcráin. Roedd Rwsieg yn cael ei siarad yn y rhanbarth hwn am yr un rheswm â bod Saesneg yn cael ei siarad yng nghymoedd diwydiannol de Cymru; mae rhanbarthau diwydiannol yn dueddol o ddenu gweithwyr o lawer o wahanol wledydd ac felly mae llawer o ddiwylliannau ac ieithoedd yn dod at ei gilydd ac yn rhyngweithio.

Treftadaeth Ewropeaidd

Ers dechrau’r rhyfel yn nwyrain Wcráin yn 2014, bu diddordeb cynyddol yn ‘nhreftadaeth Ewropeaidd’ Donbas fel math o wrthwynebiad i naratif Rwsia fod y rhanbarth yn rhan o’r ‘Byd Rwsiaidd’. Yn 2022, er enghraifft, bydd ffilm ddogfen wedi’i chyfarwyddo gan Kornyi Hrytsyuk yn cael ei rhyddhau, yn archwilio dylanwadau cyfalaf Ewropeaidd a thechnoleg ar ddatblygiad y rhanbarth.

Er ei bod yn demtasiwn i ddathlu cysylltiadau hanesyddol Donbas ag Ewrop heb feirniadaeth, yn enwedig wrth ystyried rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin, rhaid inni gofio bod i’r berthynas hon ei ochr dywyll. Roedd yn cynnwys ecsbloetio dynol ac amgylcheddol a fu o fudd i Ewropeaid a Rwsiaid elit ar draul bywydau ac ecoleg leol.

Adnodd Addysgu

Yn y set hon o adnoddau addysgu, rydym yn cyflwyno disgyblion ysgol uwchradd i hanes mudo Cymreig i Wcráin. Mae’r pwnc hwn yn un sydd heb ei archwilio yn iawn yn y cwricwlwm cenedlaethol. Ar yr un pryd, rydym wedi ceisio peidio â rhamanteiddio perthynas Cymry â dwyrain Wcráin ond yn hytrach archwilio’r anghydraddoldebau, y cam-fanteisio, a’r gwaddol cymhleth sy’n nodweddu’r hanes hwn.

 

 

This article was posted by:

Jessica Roberts's profile picture

Jessica Roberts