Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd bod Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru ar wefan Casgliad y Werin wedi ennill Gwobr Cyfraniad at Les Grŵp Archifau a Threftadaeth Cymuedol (CAHG), ac mae’r blog hwn yn cymryd golwg ar sut mae’r archif wedi datblygu i gynnwys bron 400 o eitemau, gan rannu profiadau cyn-filwyr ac amlygu straeon sydd heb gael eu hadrodd cyn hyn. Maent yn cynnwys cyfraniadau gan gyn-filwyr o’r Ail Ryfel Byd yn bennaf, ond hefyd gan rai a alwyd ar gyfer y Gwasanaeth Cenedlaethol rhwng 1947–1961 a nifer fechan a wasanaethodd mewn rhyfeloedd diweddarach ac a gyflawnodd ddyletswyddau cadw heddwch.

Hugh Morgan yw Cydlynydd Cyn-filwyr gyda Age Cymru Dyfed ac mae hefyd wedi bod yn gyfrifol am gydlynu digwyddiadau sy’n gysylltiedig â chyfrif Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru ar Gasgliad y Werin Cymru.

“Mae Age Cymru Dyfed yn hynod o falch ac yn ddiolchgar o dderbyn y gydnabyddiaeth genedlaethol yma gan CAHG. Mae Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru wedi dod yn ffynhonnell gynyddol bwerus ar gyfer atgofion cyn-filwyr hŷn yn bennaf, gan roi boddhad mawr i’r cyn-filwyr hynny a’u teuluoedd sydd wedi rhannu straeon sydd yn aml wedi bod yn rhai cudd a heb gael sylw dyledus. Ond mae’r archif hon hefyd yn sefydlu gwaddol a fydd yn eithriadol o werthfawr i genedlaethau’r dyfodol.

“Mae creu a chynnal yr Archif yn ystod pandemig byd-eang wedi bod yn dipyn o her, ond mae Age Cymru Dyfed a’i bartneriaid gwych wedi mynd i’r afael â’r her hon ar ei phen. Trwy weud hyn rydym wedi gallu dangos bod datblygu Archif yn gyfrwng gwych a dyfeisgar ar gyfer cefnogi a gwella lles pobl.”

Mae Hugh yn dwyn i gof fel y bu’n rhaid iddo gynnal rhai o’r cyfweliadau gyda chyn-filwyr o’r Ail Ryfel Byd yn ystod y gwanwyn diwethaf, gan sylweddoli nad oedd rhai o’r bobl hŷn yma wedi cael prin dim cyswllt gydag eraill am rai misoedd. Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu codi, gallodd fwrw ymlaen i drefnu te prynhawn ar gyfer y cyn-filwyr yn Aberporth, sir Benfro ar 77fed pen-blwydd D-Day, ar y 6ed o Fehefin.

Daeth un-ar-ddeg o’r cyn-filwyr a’u teuluoedd ynghyd ar y diwrnod hwnnw i gael sgwrs dros baned a chael cyfle i rannu eu hatgofion ac i ddathlu eu cyfraniad. Gallwch bori trwy’r casgliad am y digwyddiad yma, sydd hefyd yn cynnwys ffilm fer gan Age Cymru Dyfed.

Ymysg y rhai a ddaeth i Aberporth roedd Kitty Francis o Ben-y-bont ar Ogwr a Dennis Tidswell o Benfro (a welir uchod) ac a wnaeth gyfarfod ei gilydd am y tro cyntaf ar y diwrnod hwnnw. Bu Dennis yn gwasanaethu yn y Lluoedd Awyr Brenhinol o 1940–46 ac wedi ei leoli yn Duxford yn ystod Brwydr Prydain (the Battle of Britain) ac yna yn Malta (1941–44). Bu brawd Kitty, Dilwyn, yn gwasanaethu fel cyfeiriwr ar awyrennau  Lancasters yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond collodd ei fywyd yn ystod Mawrth 1944 pan oedd Kitty ond yn naw mlwydd oed.

Un o’r eitemau a gyfranwyd gan Kitty i’r archif oedd cyfweliad ynghylch atgofion o’i phlentyndod ym Mhontycymer yn ystod yr Ail Ryfel Byd, lle mae’n dwyn i gof clywed rhybuddion y cyrchoedd awyr pan oedd yn yr ysgol, efaciwîs yn cyrraedd y pentref, ac effaith colledion erchyll a ddaeth yn sgil bomiau’r Luftwaffe.

Yn ôl Hugh Morgan, sydd wedi cefnogi cyn-filwyr o ardal Ceredigion, sir Gaerfyrddin a sir Benfro trwy ei waith gyda Age Cymru Dyfed, mae gwrando ar hanes bywyd y cyn-filwyr hyn wedi bod yn ffordd dda o sefydlu partneriaeth a sefydlu ymddiriedaeth, ac wedi galluogi’r elusen i ddwyn ynghyd pecynnau cymorth wedi eu teilwra’n arbennig ar gyfer yr unigolion. Ymhen dim, daeth yn amlwg bod y straeon yma o’r Ail Ryfel Byd yn gyfraniadau hynod arwyddocaol gan rai o ‘leisiau olaf’ gwrthdaro byd-eang o bwys, ac felly daeth casglu hanes llafar ar gyfer yr archif yn agwedd fwy-fwy pwysig o’r prosiect gan ei fod yn ffordd o sicrhau bod straeon y cyn-filwyr yn cael eu hadrodd yn eu geiriau eu hunain. “Dyma’r cyfleon olaf, o bosib, i ddal lleisiau a chyfraniadau cenhedlaeth yr ystyrir gan lawer yn ‘ein cenhedlaeth fwyaf” ’, ychwanegodd Hugh. 

Mae John Martin, yn gyn-filwr sydd wedi dathlu ei gant oed. Yn wreiddiol o Lundain, y mae bellach yn byw yn Nhanygroes, Ceredigion ac fe’i gwelir yma gyda’i briod ers 78 mlynedd, Adelaide, a fu hefyd yn gwasnaethu yn yr Ail Ryfel Byd gyda Llu Awyr Cynorthwyol y Merched. Fe wnaeth John recordio ei atgofion am flynyddoedd cynnar y rhyfel, ei gyfnod yn hyfforddi ac yn gwasanaethu gyda’r Llu Awyr Brenhinol, y diwrnod y cafodd ei saethu i lawr yn ei awyren, ac yna cael ei ddal yn garcharor rhyfel yn yr Almaen.

Ac yntau’n ddyn radio ifanc gyda’r RAF, fe gafodd John Martin (a welir uchod mewn llun a dynnwyd ohono yn 1942) ddihangfa wyrthiol pan ymosodwyd ar ei awyren Lancaster gan awyren Almaenig uwchben Berlin ar noson y 30ain o Ionawr 1944. Cadwodd ei rieni y telegram a anfonwyd atynt gan y Weinyddiaeth Awyr y diwrnod wedi iddo fynd ar goll, ac fe’i cynhwysir yn yr archif. Dyma sut mae John Martin yn dwyn i gof y munudau diwethaf dychrynllyd hynny yn ei awyren, flynyddoedd yn ôl:

“Roedd yna dân-belenni yn chwipio heibio fy mraich dde. A goleuadau glas yn fflachio ym mhobman. Mae’n rhaid bod y cyfeiriwr wedi cael ei anafu. Ro’n i’n gwybod ein bod wedi cael ei’n taro’n ddrwg a trois yr intercom ymlaen mewn pryd i glywed y sgiper yn dweud, ‘bale out, bale out!’. Mae’n rhaid na chafodd y cyfeiriwr ei anafu’n ddrwg iawn, oherwydd roedd y ddau ohonon ni’n estyn am ein parasiwtiau ar yr un pryd. Wrth i mi agor y drws i gaban y peilot er mwy mynd i lawr i’r allanfa, daeth fflamau amdanaf i a gwelais bod y cyfan o gorff yr awyren ar dân. Yr eiliad honno pan agorais y drws gwelais un o’r magnelwyr yn dringo allan o’i dyred a oedd wedi ei ddifrodi’n llwyr, a gwyddwn mai’r cyfan allwn i ei wneud oedd cau’r drws yn glep, felly es yn ôl i mewn i gaban y peilot.

“Roedd yr awyren yn plymio’n ofnadwy. Dringais i mewn i sedd y peilot. Ceisiais agor y ‘dingy hatch’ ond roedd hwnnw’n gwrthod symud, ac felly ro’n i jest yn meddwl wrthyf fy hun, ‘wel, mae hi ar ben arna i’ … Y peth nesaf glywais i oedd ffrwydriad enfawr, a chefais fy nhaflu’n anymwybodol.

“Fe wnes i hanner ddod at fy hun y tu allan i’r awyren a gallwn weld darn anferth o Lancaster yn hedfan heibio yn agos iawn ataf i, ac yna fe wnaeth yr ysgytwad gefais i gan y parasiwt ddod â mi at fy hun … felly roeddwn i’n anhygoel o lwcus. Pan ymosodwyd arnon ni am y tro cyntaf, roedden ni rhyw 20,000 troedfedd o’r ddaear, ond erbyn i mi ddod ataf fy hun, mae’n rhaid mai dim ond rhyw 1,000 troedfedd oddi wrth y ddaear oeddwn i. Roedd rhan o fy harnais wedi cael ei rwygo i ffwrdd, ond roeddwn yn ddigon ymwybodol o fy hun i sylweddoli bod angen i mi ddal arno’r strapiau gymaint ag y gallwn i, nes i mi daro’r ddaear yn llawer caletach nag y dyliwn i fod wedi gwneud.”

Gallwch wrando ar atgofion byw John o sut y bu iddo ddod wyneb yn wyneb â marwolaeth yn y cyntaf o ddau gyfweliad a recordiwyd ganddo: 

Cymeradwywyd Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru gan feirniaid Gwobrau Archifau a Threftadaeth Cymunedol am “y ffordd y bu i’r prosiect hwn gysylltu’r weithred syml, dynol o wrando ar stori rhywun gyda chreu archif. Roedd cyfranogwyr yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw ac yn eu gwerthfawrogi, tra bod eu naratif hwy yn gallu eu cysylltu a’u hailgysylltu nhw gyda theulu a ffrindiau”. Yn ôl Hugh Morgan, cydlynydd y prosiect, “Mae’r Archif hefyd wedi gweithio ar lawr gwlad oherwydd y cyfraniadau a wnaed gan nifer fawr o wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser a’u hymroddiad i’r dasg, ac yn arbennig felly oherwydd haelioni’r cyn-filwyr eu hunain wrth iddynt ddatgloi atgofion am brofiadau o’r gorffennol.” Ychwanegodd Hugh: “Rydyn ni wedi bod mor ddiolchgar o gefnogaeth ddiflino a phroffesiynoldeb Casgliad y Werin Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ymnddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog a Chyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru.”

Eitemau o dan y chwyddwydr

Mae ein heitemau o dan y chwyddwydr o Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru yn canolbwyntio ar yr Ail Ryfel Byd, ac yn cynnwys hysbyseb ar gyfer Ysgol Hedfan Marshall’s mewn taflen o 1942, dyddiaduron rhyfel Enid Lewis, a gofnodwyd yn ystod y cyfnod y bu’n gwasnaethu fel Plotiwr Awyrennau gyda’r Gwasaneth Tiriogaethol Cynorthwyol a phaentiad a grewyd gan cyn-beilot Spitfire yr Awyrlu Brenhinol, Awyr-lefftenant Edward ‘Ted’ Morgan yn ystod ei ymddeoliad.

Beth am gymryd golwg ar Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru i weld beth allwch chi ei ddarganfod?

Hysbyseb Taflen Ysgol Hedfan Marshall’s 1942

Yma yn Ysgol Hyfforddi Hedfan Marshall’s yng Nghaergrawnt y bu i nifer o gadetiaid y Lluoedd Awyr Prydeining wneud eu hedfaniad cyntaf ar eu pen eu hunain, a hynny yn y De Havilland Tiger Moth. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu Marshall's yn gartref i Ysgol Hyfforddi Hedfan Elefennol Rhif 22, yr Awyrlu Brenhinol.

Dyddiaduron Amser Rhyfel Enid Lewis

Bu Enid Lewis (Lloyd gynt) o Gaerfyrddin, ac yna Castell-nedd yn gwasanaethu gyda’r Gwasanaeth Triogaethol Cynorthwyol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae ei dyddiaduron blynyddol – a gadwodd yn ddi-dor rhwng 1939 ac 1947 – yn creu darlun o fenyw ifanc, fywiog oedd yn byw bywyd llawn, yn mwynhau dawnsfeydd, parïon ac ymweliadau mynych i’r pictiwrs er mwyn gweld y ffilm ddiweddaraf. O edrych yn fanylach ar ddyddiaduron Enid daw ei hagwedd digynnwrf at fywyd yn ystod y rhyfel yn amlwg, yn cynnwys yr ymosodiadau mymych ar Abertawe a’r achlysuron pan fu’n rhaid iddi chwilio am loches mewn tafardnai yn ystod y cyrchoedd awyr.  Gan ymrestru gyda’r ATS, daw Enid yn blotiwr awyrennau (ern ad yw’n trafod ei rôl), ac mae’n siarad eto am y cyrchoedd awyr, y ‘Buzz Bombs’ yn hedfan uwchben ei llety, a bodio gyda’i chyfeillion o’r ATS i Lundain ar gyfer Diwrnod Buddigoliaeth yn Ewrop (VE Day). Yn y cyfnod wedi’r rhyfel mae’n disgrifio mewn peth manylder y teithiau y bu arnynt a’i bywyd cymdeithasol yn y Almaen gyda’r Comisiwn Rheolaeth Prydeinig. Mae ei natur dawel yn tywynni trwy ei holl ddyddiaduron.

Ted Morgan: Mosquito at Night

 [[item: 1722111]]

Crewyd y paentiad hwn gan y diweddar Awyr-lefftenant Edward ‘Ted’ Morgan sy’n dangos awyren Mosquito’n hedfan yn 1986 ac mae’n ymddangos yn y casgliad Gweithiau Celf a Cherddi gan Gyn-filwyr. Cafodd Ted ei ddewis ar gyfer hyfforddi’n beilot a chafodd ei anfon i Ysgol Hyfforddi Hedfan Prydienig Rhif 6 yn Ponca City, Oklahoma. Wedi’r rhyfel dychwelodd i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd a pharhaodd i hedfan ar y penwythnosau. Yn ystod yr 1950au cynnar, daeth yn un o’r Seicolegwyr Addysg cyntaf i gael eu penodi i’r GIG oedd newydd ei sefydlu, ac yn y diwedd fe ymddeolodd fel Pennaeth Astudiaethau Cymdeithasol Cymhwysol yng Ngholeg Ruskin, Rhydychen yn 1981.

 

This article was posted by:

Casgliad y Werin Cymru's profile picture

Casgliad y Werin Cymru