Blog

Uchelgais Ddiwylliannol

Mae Keir Griffiths yn un o’r garfan gyntaf o hyfforddeion ledled Cymru sydd wedi ymuo gyda’r prosiect Uchelgais Ddiwylliannol – prosiect sy’n cefnogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau gweithle yn y sector treftadaeth. Ar hyn o bryd mae’r hyfforddai 23 oed ar leoliad yn y Llyfrgell Genedlaethol sy’n rhan o’r rhaglen sy’n cael ei harwain gan Creative & Cultural Skills a Llywodraeth Cymru drwy grant Sgiliau ar Gyfer y Dyfodol HLF. Yn ddiweddar, mae Keir wedi bod yn cyfrannu at wefan Casgliad y Werin trwy ychwanegu cynnwys sy’n dathlu hanes cyfoethog Cymru a’i phobl.

Stori'r Goedwig

Mae prosiect Stori’r Goedwig yn un o brosiectau Datgloi ein Treftadaeth Sain (Cronfa Dreftadaeth y Loteri) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ddiweddar cafodd myfyrwyr MA Gweinyddu Archifau Prifysgol Aberystwyth, dan arweiniad yr Dr Sarah Higgins, gyfle i ddigido a diogelu hanesion personol y bobl hynny sydd wedi byw a gweithio yn y goedwig ac yn yr ardal oddi amgylch – o Ynys Môn yn y gogledd i Ddyffryn Dyfi yn y canolbarth a Choedwig Tywi yn y de-orllewin.

Cylchlythyr Mis Mawrth 2019

Prosiect addysg ffilm gymunedol yw Cynefin - Our Welcome dan nawdd Ffilm Cymru Wales gyda chefnogaeth Michael Sheen a Sefydliad Celf Josef Herman.

Mae Prosiect Maelgi: Cymru angen eich help!

Ar un adeg roedd Maelgwn yn gyffredin, yn llithro dros welyau Môr Dwyreiniol yr Iwerydd a Môr y Canoldir. Mae’r rhywogaeth ryfeddol hwn wedi diflannu o lawer o’i gynefin, a bellach Mewn Perygl Difrifol. Mae yna boblogaeth bwysig yn parhau yng Nghymru, ac mae arnom angen eich help i’w diogelu.

Cylchlythyr Medi 2018

Bob blwyddyn bydd Pwyllgor Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn gwahodd holl ysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cystadlaethau projectau treftadaeth genedlaethol. Mae Casgliad y Werin Cymru wedi cefnogi'r gystadleuaeth dros y blynyddoedd trwy noddi rhai o'r gwobrau digidol.

Eleni enillodd Ysgol Penboyr ac Ysgol Maesydderwen y wobr am Ragoriaeth Ddigidol, Llongyfarchiadau i'r ddau ohonyn nhw!

Dyddiau Casgliad Ymfudo Europeana, 6–7 Gorffennaf

Yn ystod Blwyddyn Treftadaeth Ddiwylliannol Ewrop 2018 – mewn partneriaeth â Chasgliad y Werin Cymru a Hension Bae Teigr, ynghyd ag amgueddfeydd ymfudo ar draws Ewrop – mae Europeana yn gwahodd pobl o bob oed i fod yn rhan o broject i greu casgliad ar-lein yn ymwneud ag ymfudo.

10 mlynedd o Gasgliad y Werin Cymru

Mae eleni yn nodi'r 10fed flwyddyn ers i Gasgliad y Werin Cymru gael ei sefydlu. Ers 2008, mae'r rhaglen wedi mynd o nerth i nerth; o lansiad y wefan yn ôl yn 2010, i wefan sydd bellach gyda dros 100,000 o eitemau. Mae'r ffotograffau, dogfennau, recordiadau sain a fideo yn helpu i greu darlun cyflawn o hanes a threftadaeth Cymru.

Chwilio am Drwbl!

Chi bia’r dyfodol! Wrth i ni ddathlu llwyddiant y tair blynedd diwethaf ers ail-lansio ein gwefan, rydym yn troi ein ffocws at edrych am ffyrdd i wella’r safle

Eitemau Anarferol

Mae’r hashnod #FolkloreThursday wedi bod yn boblogaidd iawn ar Twitter yn ddiweddar. Mae’n galluogi i bobl rannu straeon a lluniau sy’n dangos hen draddodiadau a chredoau, llawer ohonynt wedi hen ddarfod.

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a Mis Hanes Menywod, rwy wedi dewis delweddau o’r Casgliad sy’n dangos gwaith menywod...

Tudalennau