Mae Prosiect Maelgi: Cymru angen eich help!
Mae Prosiect Maelgi: Cymru angen eich help!
Ar un adeg roedd Maelgwn yn gyffredin, yn llithro dros welyau Môr Dwyreiniol yr Iwerydd a Môr y Canoldir. Mae’r rhywogaeth ryfeddol hwn wedi diflannu o lawer o’i gynefin, a bellach Mewn Perygl Difrifol. Mae yna boblogaeth bwysig yn parhau yng Nghymru, ac mae arnom angen eich help i’w diogelu.
Rhannwch eich straeon, atgofion a ffotograffau o Faelgwn.
Gwirfoddolwch ar eu prosiect ymchwil Hanesyddol Maelgwn, i ddod o hyd i gliwiau mewn llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd lleol.
Ymunwch â Sioe Deithiol Hanes Maelgwn fydd yn teithio o amgylch Cymru rhwng Ionawr a Mawrth 2019.
I wybod mwy: https://angelsharknetwork.com/cymru/
Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
Mae casgliad gweithfeydd haearn Mynachlog-nedd yn un o gasgliadau pwysicaf Archifau Gorllewin Morgannwg yn Abertawe ac yn un o nifer cyfyngedig o gasgliadau archifau yng Nghymru sydd ar restr y DU o raglen Cof y Byd UNESCO. Mae dros 7,500 o ddarluniadau peirianneg a gafodd eu creu at ddibenion marchnata a gwneud y peiriannau'n datgelu datblygiad technolegol peirianwaith diwydiannol yn ystod y 19eg ganrif ac yn nodi pa mor bwysig oedd cyfraniad Cymru at y chwyldro diwydiannol Prydeinig.
Mae rhywfaint o'r casgliad nawr ar ein gwefan.
Cysylltwch â Archifau Gorllewin Morgannwg os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch i gael mynediad at y cofnodion hyn neu i gael copïau.
Nadolig Llawen!
Diolch i bawb am ein dilyn a chyfrannu at ein gwefan - chi sy'n ein helpu i ddarganfod a rhannu stori pobl Cymru gyda gweddill y byd!