Chwilio am Drwbl!
1. Y Diwedd
I ddechrau yn y diwedd... ym mis Chwefror 2014, aethom ati i ail-adeiladu gwefan Casgliad y Werin Cymru yn llwyr. Roedd yn cynnwys system rheoli cynnwys (CMS)* newydd oedd yn canolbwyntio ar y defnyddiwr, ailwampio’r elfen weledol, a phob math o offer technolegol newydd.
*CMS yw’r rhyngwyneb a welwch a’i ddefnyddio rhwng mewngofnodi a chyhoeddi
Ar y pryd, roedd y pwyslais ar ddefnyddioldeb, fel y dylai fod. Ond nawr, a’r wefan yn blatfform da ar gyfer cadw ffotograffau, straeon ac atgofion, rydym am wneud mwy o welliannau.
2. Y Dechrau
Os mai dyna oedd y diwedd, mae’r dechrau’n golygu perffeithio; gwneud newidiadau bach er mwyn cael effaith fawr, a chynnig gwell Profiad Defnyddiwr (UX)*.
*UX yw safon y profiad a gewch wrth geisio cyflawni tasgau syml.
Mae gwefan sydd â Phrofiad Defnyddiwr ardderchog yn ddefnyddiol, clir a chyfeillgar.
3. Nawr
Yn 2014 buom yn ymgynghori ag amrywiaeth o dimau arbenigol o archifau, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd, oedd yn wych i ni...ond beth amdanoch chi?
Rydym yn deall bod angen i’n prosesau fod yn symlach gyda chamau haws sy’n caniatáu i chi fewngofnodi a chyhoeddi tudalennau newydd heb orfod pori trwy ganllaw anferth! Dau reswm sydd gan bobl dros ymweld â’r wefan – chwilio am rywbeth, neu gyhoeddi a chadw.
Rydym eisiau gwybod beth ydych chi’n ei weld yn anodd, yn ddryslyd neu’n niwsans... rydyn ni wir yn chwilio am drwbl!
4. Beth Nesaf?
Fi: wrth i ni weithio tuag at ddyluniad a phrosesau symlach, rwy’n bwriadu eich diweddaru ar y blog gan obeithio y byddwch chithau yn rhoi eich barn.
Chi: mae croeso i chi adael sylwadau isod neu ar unrhyw flog yn y dyfodol er mwyn rhannu profiadau a dweud beth hoffech ei weld yn gwella. Os oes gennych lawer o syniadau, neu syniad mwy cymhleth, mae’n well defnyddio’r ffurflen gysylltu.

Kay Hanson
ar ddydd Llun, 02/27/2017 - 11:31- Mewngofnodwch neu Cofrestrwch er mwyn gadael sylwadau