Dyddiau Casgliad Ymfudo Europeana, 6–7 Gorffennaf

Dyddiad y Digwyddiad: 6-7 Gorffennaf

Amser: 10:00-17:00

Lleoliad: Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

Yn ystod Blwyddyn Treftadaeth Ddiwylliannol Ewrop 2018 – mewn partneriaeth â Chasgliad y Werin Cymru a Hanesion Bae Teigr, ynghyd ag amgueddfeydd ymfudo ar draws Ewrop – mae Europeana yn gwahodd pobl o bob oed i fod yn rhan o broject i greu casgliad ar-lein yn ymwneud ag ymfudo.

Mae gan bob un ohonom wrthrychau sy'n adrodd stori ein cefndir a'r hyn sydd wedi siapio ein bywydau. I lawer ohonom, mae hynny'n cynnwys ymfudo. Efallai fod eich teulu wedi symud i wlad arall neu symud o un pentref i un arall o fewn Cymru. Rydym am roi'r atgofion hyn ar gof a chadw er mwyn creu darlun ehangach o ymfudo – yng Nghymru ac Ewrop yn ehangach – a chyfoethogi ein Treftadaeth Ddiwylliannol.

Gallwch gymryd rhan trwy ddod â gwrthrychau – llythyrau, ffotograffau, gwaith celf, dyddiaduron, cardiau post, cofroddion ac ati sy'n rhan o'ch stori ymfudo chi, a chymaint o fanylion amdanynt â phosib, i Ganolfan Mileniwm Cymru ar 6 a 7 Gorffennaf. Bydd tîm Casgliad y Werin Cymru a Hension Bae Teigr yn gwrando ar eich stori, yn gofyn ambell gwestiwn amdanoch, ac yn tynnu llun neu'n sganio'r gwrthrychau fel y gallwch fynd â nhw adref.

Yn fuan ar ôl y digwyddiad, caiff eich straeon eu huwchlwytho i wefan Casgliad y Werin Cymru, lle bydd modd i bawb eu gweld ynghyd â straeon pobl eraill o'r digwyddiad. Bydd eich stori hefyd yn rhan o Gasgliad Ymfudo Europeana ar-lein, lle byddant ar gael i bobl eu darganfod at ddibenion addysg, ymchwil, ysbrydoliaeth neu bleser.

Rhannwch eich stori i fod yn rhan o Flwyddyn Treftadaeth Ddiwylliannol Ewrop!

 

This article was posted by:

Jessica Roberts's profile picture

Jessica Roberts