Uchelgais Ddiwylliannol

Mae Keir Griffiths yn un o’r garfan gyntaf o hyfforddeion ledled Cymru sydd wedi ymuo gyda’r prosiect Uchelgais Ddiwylliannol – prosiect sy’n cefnogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau gweithle yn y sector treftadaeth. Ar hyn o bryd mae’r hyfforddai 23 oed ar leoliad yn y Llyfrgell Genedlaethol sy’n rhan o’r rhaglen sy’n cael ei harwain gan Creative & Cultural Skills a Llywodraeth Cymru drwy grant Sgiliau ar Gyfer y Dyfodol HLF.

Yn ddiweddar, mae Keir wedi bod yn cyfrannu at wefan Casgliad y Werin trwy ychwanegu cynnwys sy’n dathlu hanes cyfoethog Cymru a’i phobl. ‘Dwi wastad wedi chwarae o gwmpas gyda ffotograffiaeth, a wastad wedi gallu teimlo rhyw gysylltiad gydag eitemau sy’n ddeniadol yn weledol,’ eglurodd Keir; penderfynodd gymryd amser i ffwrdd wedi iddo adael yr ysgol. ‘Roeddwn i’n dioddef gydag iselder, ac ro’n i’n teimlo ’mod i angen amser i mi fy hun i benderfynu i ba gyfeiriad ddyliwn i fynd nesaf. Ro’n i’n eithriadol o lwcus i gael fy nerbyn fel hyfforddai ar y prosiect ac ro’n i’n teimlo y gallwn i roi cynnig ar hwn.'

Mae’r Cwrs Hyfforddai Uchelgais Ddiwylliannol yn darparu 12 mis o leoliadau hyfforddiant i 33 o bobl ifanc sydd ar hyn o bryd heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gan roi cyfle iddynt weithio o bell tuag at gymhwyster fel myfyriwr cofrestredig gyda Choleg Caerdydd a’r Fro. Keir yw’r ail fyfyriwr i dderbyn lleoliad gwaith yn y Llyfrgell Genedlaethol; cyn hyn bu ar leoliad gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

‘Cefais fy nghyflwyno i Gasgliad y Werin Cymru a’r wefan, ac ro’n i wrthi’n pori trwy’r oriel pan welais i lun o ffrind i fy nhad; roedd o wedi cyffroi dipyn pan gafodd o wybod! Mae yna bob math o ddeunydd ar y wefan. Ro’n i’n awyddus i ychwanegu cynnwys sy’n berthnasol i hanes Cymru – a chestyll yn arbennig. Dwi’n credu bod fy niddordeb i mewn cestyll yn deillio o’r ffaith ’mod i wedi cael fy magu yma yn Aberystwyth, a bod y castell a’r ardal o amgylch wedi chwarae rhan bwysig yn fy mhlentyndod. Dwi’n meddwl hefyd fy mod i yn cael fy nenu at ddelweddau o gestyll oherwydd eu lleoliad ar dirlun Cymru – mae ganddyn nhw wastad olygfeydd gwych ac ymdeimlad cryf o bwrpas. Chwilio am gestyll mewn gwahanol leoliadau oedd un o’r pethau cyntaf wnes i droi ato er mwyn dethol delweddau o FlickrCymru ar gyfer CyW oedd yn cynnwys metadata defnyddiol – ond heb unrhyw ystyriaethau oedd yn cyfyngu oherwydd hawlfraint.

‘Mae gwefan Casgliad y Werin yn rhoi cyfle da i chwilota a darganfod trwy ffotograffau – sef yn union beth rydych chi eisiau os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn hanes a hanes lleol. Yr hyn dwi’n arbennig o hoff ohono yw’r ffaith ein bod ni’n gallu dysgu cymaint am y newidiadau sy’n digwydd yn ein cymdeithas, ac mae’n grêt pan mae ganddoch chi gofnodion gweledol sy’n llwyddo i ddal y newidiadau hynny. Mae yna gymaint o straeon i’w dweud.

‘Un o fy hoff eitemau o’r wefan yw’r ffotograff cynnar yma (c1890) o draeth Aberystwyth. Er bod yr olygfa yn un gyfarwydd iawn, mae’r gwahaniaethau rhyngddi a’r hyn rydyn ni’n ei weld heddiw i’w sylwi yn syth – yn arbening felly y llithrfa ar gyfer y bad achub sydd wedi diflannu erbyn hyn; mae’r bandstand ar goll, does dim Camera Obscura ar ben Craig Glais, a welwch chi ddim cychod rhwyfo a cheffylau ar y traeth y dyddiau yma!’

Yn ogystal â bod yn rhan o’r prosiect Uchelgais Diwylliannol mae Keir yn aelod o grŵp ieuenctid Treftadaeth Ddisylw yng Ngheredigion, rhaglen sy’n cynnwys gweithgareddau archaeolegol cymunedol sydd wedi eu cynllunio i annog ac ysbrydoli pobl ifanc i ymgysylltu gyda’u treftadaeth leol. Mae o hefyd wedi bod ynghlwm wrth gynllun mentora i grŵp ieuengach o fewn Treftadaeth Ddisylw – rhywbeth y mae’n teimlo’n arbennig o falch ohono. ‘Mae hi’n eithriadol o bwysig bod pobl ifanc yn gallu teimlo’r cysylltiad yna efo’u treftadaeth – ac iddyn nhw sylweddol ei fod o’n rhywbeth iddyn nhw, nid dim ond y genhedlaeth hŷn.’

https://ccskills.org.uk/apprenticeships/ni-cep/article/the-cultural-ambition-project-kicks-off-in-wales

Tags: 

This article was posted by:

Elena Gruffudd's profile picture

Elena Gruffudd