Stori'r Goedwig

Mae prosiect Stori’r Goedwig yn un o brosiectau Datgloi ein Treftadaeth Sain (Cronfa Dreftadaeth y Loteri) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ddiweddar cafodd deg myfyriwr MA Archive Administration a MSc Digital Curation Prifysgol Aberystwyth, dan arweiniad yr Dr Sarah Higgins, gyfle i ddigido a diogelu hanesion personol y bobl hynny sydd wedi byw a gweithio yn y goedwig ac yn yr ardal oddi amgylch – o Ynys Môn yn y gogledd i Ddyffryn Dyfi yn y canolbarth a Choedwig Tywi yn y de-orllewin.

Ymhlith y myfyrwyr fu’n gweithio ar Brosiect Stori'r Goedwig mae Emma Hollis, Olivia Weekes a Crystal Guevara sy’n rhannu rhai sylwadau am archifo digidol a sut mae Casgliad y Werin Cymru wedi cyfrannu at y prosiect hwn. Fe wnaeth Aron Richard Roberts hefyd weithio ar Stori’r Goedwig, ac yma mae’n trafod ei gyfraniad fel siaradwr Cymraeg a sut mae lleisiau o’r cymunedau amaethyddol wedi llywio ei ganfyddiad ef o effaith coedwigo ar rannau helaeth o Gymru.

Crystal: ‘Yn 2002–2003 fe wnaeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru recordio hanes llafar y bobl gafodd eu heffeithio gan weithgareddau’r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd cynnar. Mae’r cyfraniadau yn pontio ystod o bron i 60 mlynedd o hanes, o’r blynyddoedd yn union wedi’r rhyfel hyd at ddechrau’r unfed ganrif ar hugain. Pobl ifanc oedden nhw yn bennaf, rhai gafodd gyfle i ennill bywoliaeth gyda’r Comisiwn Coedwigaeth ac yn achos llawer ohonynt, fe wnaeth hyn lywio eu bywydau; roedden nhw’n dod o math o gefndiroedd, o wahanol ardaloedd yng Nghymru a llawer iawn o Loegr. Mae nifer o’r ffeiliau sain yn cynnwys hanesion am sut y daethant i weithio i’r Comisiwn ac am weithgareddau megis adeiladu ffyrdd, aredig, plannu, a thorri coed.’

Roedd Crystal, sy’n dod o Virginia, wrth ei bodd i fod ymhlith y 10 myfyriwr gafodd eu dewis i weithio ar brosiect Stori’r Goedwig: ‘Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn i gael dod i ddeall sut mae tirlun Cymru wedi newid o ganlyniad i waith y Comisiwn Coedwigaeth, ac i ddysgu am effaith gymdeithasol, amaethyddol ac economaidd hyn ar gymunedau gwledig. I mi, mae'r prosiect nid yn unig wedi ymwneud â digido, ond mae e hefyd yn ymwneud â dehongli deunydd, ac rwy'n teimlo ein bod ni yn bennod arall yn hanes y deunydd hwn.’

Liv: ‘Dwi’n dod o Feddgelert yng ngogledd Cymru yn wreiddiol. Wnes i raddio o Brifysgol Manceinion, ac ro’n i’n falch o’r cyfle i ddod yn ôl i Gymru – ac yn arbennig felly i weithio ar y prosiect hwn. Mae Casgliad y Werin Cymru yn wych yn y ffaith ei fod yn gadael i chi gael mynediad i archif ar lein fel profiad amlsynhwyraidd. Er enghraifft, gyda Stori’r Goedwig, mi allwch chi fod yn gwrando ar ddeunydd sain gwirioneddol ddiddorol tra ar yr un pryd eich bod yn cael cyfle i edrych ar luniau ffantastig o’r union leoliadau mae’r clipiau yn cyfeirio atyn nhw. Mae cael gwahanol fformatiau ar y wefan yn ei wneud o’n brofiad apelgar iawn.

‘Mae Casgliad y Werin yn teimlo fel platfform sy’n ysgogi cydweithredu a chysylltu â phobl eraill – mae hi bendant yn wefan lle gall syniadau dyfu a lle mae’n bosib gwneud cysylltiad rhwng y gwahanol ddeunydd.’

Cafodd Emma Hollis (o Sheffield) ei phenodi’n Rheolwr Arddangos ar gyfer y prosiect a bu’n cynorthwyo gyda’r gwaith drefnu uwchlwythiadau i wefan Casgliad y Werin. Roedd edrych ar gasgliadau a storïau eraill ar y wefan yn ddefnyddiol i’r prosiect meddai: ‘Roedd edrych ar eitemau pobl eraill yn ein hysgogi ni ac yn gwneud i ni feddwl pa storïau fydden ni’n gallu eu casglu, yn hytrach na dim ond llwytho’r eitemau a’u gadael yno. Mae gweithio ar y prosiect hwn wedi rhoi dealltwriaeth i mi o’r hyn sy’n bosib gyda archifau digidol a sut y gall o gyfoethogi dyfodol pob un ohonon ni.’

Yn ôl Aron, sy’n wreiddiol o Gynwyd ger Corwen, ‘Pwysigrwydd y prosiect yma i bobl Cymru a thu hwnt ydi ei fod o’n helpu i brosesu’r hyn ddigwyddodd yn y cymunedau amaethyddol, ac mae’n helpu i ddeall persbectif cyfranwyr oddi mewn ac oddi allan y Comisiwn Coedwigaeth. O’r 167 minidisc wnaethon ni eu digido, mae 19 ffeil sain wedi eu llwytho ar wefan Casgliad y Werin – yn ogystal â bron i 160 o ffotograffau o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol – felly gobeithio eu bod nhw’n cynrychioli trawstoriad o brofiadau.

‘Roedd y deunydd yn ysbrydoli rhywun, ond roedd rhywun hefyd yn teimlo dipyn o gyfrifoldeb wrth wneud y gwaith. Gan mai dim ond Liv a finna sy’n siarad Cymraeg a bod mwyafrif o’r deunydd sain yn Gymraeg, roedd ganddon ni dipyn o waith i’w wneud fel trawsgrifwyr! Mae hi mor bwysig cofnodi pethau fel enwau lleoedd ac enwau ffermydd a thyddynnod yn gywir o safbwynt catalogio, achos dyma yn aml sut mae pobl yn gallu cael mynediad i’r deunydd. Fuon ni’n gwirio ffynonellau ar-lein a mapiau, achos os nad ydi rhywun yn cael yr enwau’n iawn, mae peryg iddyn nhw ddiflannu. Maen nhw’n rhan o’r stori, ac yn chwarae rhan bwysig yn lleoli holl leisiau’r Goedwig.”

Hoff Stori Crystal: Marion Gertrude Jones

Hoff Stori Liv: Annie Williams

Hoff Stori Emma: Frederick Egerton

Hoff Stori Aron: Erwyd Howells

Darllenwch fwy am brofiad Crystal Guevara yn gweithio ar brosiect Stori'r Goedwig ar flog Llyfrgell Genedlaethol Cymru

This article was posted by:

Elena Gruffudd's profile picture

Elena Gruffudd