Cylchlythyr Mis Mawrth 2019
‘Cynefin – Our Welcome’
Prosiect addysg ffilm gymunedol yw Cynefin - Our Welcome dan nawdd Ffilm Cymru Wales gyda chefnogaeth Michael Sheen a Sefydliad Celf Josef Herman.
Mae tîm celfyddydau cymunedol Neuadd Les Ystradgynlais wedi cydweithio ag Ysgol Maesydderwen, Ysgol Dyffryn Y Glowyr a theuluoedd o Syria sydd wedi ymsefydlu yn y dref, er mwyn adrodd hanesion ffoaduriaid ddoe a heddiw. Cydweithiodd y cwmni animeiddio gwobrwyedig, Winding Snake Productions, â'r gymuned i greu dwy ffilm sy'n rhannu eu straeon am y croeso a roddwyd yn Ystradgynlais i bobl sy'n ffoi rhag rhyfel.
Enillodd y ffilmiau animeiddiedig, a grëwyd ar y cyd gan ysgolion yn Ystradgynlais, wobr Rhagoriaeth Ddigidol Casgliad y Werin Cymru yn y gystadleuaeth Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2018.
Mae’r prosiect ysbrydoledig hwn wedi ei ddewis fel astudiaeth achos ar gyfer adnodd addysgu sy’n cynnwys y ddwy ffilm Cynefin a Uncle Ahmad's Canaries yn ogystal â fideo o'r broses sy’n rhoi mwy o wybodaeth am sut y cafodd y ffilmiau eu creu.
Ditectifs y Deinosoriaid
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd dau adnodd addysgu poblogaidd gan Amgueddfa Cymru ar Gasgliad y Werin Cymru. Mae gan adnoddau 'Ditectifs y Deinosoriaid' a 'Dôl Drefol' gasgliadau ar Gasgliad y Werin Cymru y gall athrawon eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r casgliadau yn cynnwys delweddau o'r adnodd addysgu, ynghyd â chynnwys ychwanegol i wella'r profiad dysgu i ddisgyblion.
Prosiect Llongau-U
Effeithiodd y Rhyfel Mawr ar y Môr mewn nifer o ffyrdd gwahanol ar Gymru a’i phobl. Mae’r Prosiect Llongau-U, 1914-18: Coffáu’r Rhyfel ar y Môr yn dwyn ynghyd haneswyr, archeolegwyr, gwyddonwyr morol, amgueddfeydd a grwpiau cymunedol ar hyd a lled Cymru i adrodd storïau’r cyfnod.
Menter ar y cyd rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Prifysgol Bangor a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol yw’r Prosiect Llongau-U, 1914-18 ac mae’n rhoi cyfle heb ei ail i bobl archwilio’r gweddillion llongau ar waelod y môr sy’n rhan o dreftadaeth Cymru. Mae’r ymchwil sy’n cael ei wneud gan y partneriaid yn datgelu storïau newydd am y Rhyfel Mawr yn nyfroedd Cymru.
Porwch eu casgliadau yn eu horiel ar ein gwefan.