Ditectifs y Deinosoriaid
2346 wedi gweld yr eitem hon

Disgrifiad
Chwiliwch am ffosil deinosor, dysgwch am fwyd y deinosoriaid a rhyfeddwch at ba mor fawr oedd traed T. rex drwy gyfrwng gemau a posau. Mae’n gyfle hefyd i gwrdd â’r deinosor Cymreig newydd, Dracoraptor hanigani.
Lawrlwythwch yr iBook neu’r ffeil PDF ar eich dyfais symudol i ddarganfod mwy. Gallwch ei ddefnyddio adref, neu ddod ag ef i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i archwilio’r orielau.
Y Cyfnod Sylfaen
Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd, Datblygiad mathemategol
Cyfnod Allweddol 2
Gwyddoniaeth, Mathemateg
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gasgliad o ddelweddau i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn. Mae'r casgliad yn cynnwys delweddau o'r adnodd, a rhai ychwanegol i wella profiad dysgu eich disgyblion.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw