Casgliad Ditectifs y Deinosoriaid
Mae’r Casgliad hwn yn cyd-fynd â’r adnodd dysgu Ditectifs y Deinosoriaid, a grëwyd gan Amgueddfa Cymru.
Chwiliwch am ffosil deinosor, dysgwch am fwyd y deinosoriaid a rhyfeddwch at ba mor fawr oedd traed T. rex drwy gyfrwng gemau a posau. Mae’n gyfle hefyd i gwrdd â’r deinosor Cymreig newydd, Dracoraptor hanigani. Lawrlwythwch yr iBook neu’r ffeil PDF ar eich dyfais symudol i ddarganfod mwy. Gallwch ei ddefnyddio adref, neu ddod ag ef i’r Amgueddfa i archwilio’r orielau.
Mae dau weithdy deinosoriaid yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Synau’r Deinosoriaid ar gyfer dosbarthiadau Cyfnod Sylfaen. Ditectifs Deinosoriaid ar gyfer dosbarthiadau CA2. Mae rhagor o fanylion ar ein gwefan: https://amgueddfa.cymru/caerdydd/addysg