Ddôl Drefol

1594 wedi gweld yr eitem hon

Cover image

Disgrifiad

Dysgwch am wenyn, bioamrywiaeth a sut i greu eich gweirglodd eich hun.

Yn 2014, creodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Ddôl Drefol ar dir yr Amgueddfa, fel lloches i fywyd gwyllt yng nghanol y ddinas. Bwriad y pecyn hwn yw helpu athrawon ac addysgwyr y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 i baratoi at arwain ymweliad i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ond gellir ei ddefnyddio i gefnogi dysgu yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt hefyd. Mae llawer o syniadau a gweithgareddau i fynd i’r afael â nhw cyn eich ymweliad, tra byddwch yn yr Amgueddfa ac yn ôl yn yr ysgol. Yng nghefn y pecyn, ceir adran adnoddau gyda thaflenni gwaith a gweithgareddau.

 

Cyfnod Sylfaen

Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd, Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu, Datblygiad mathemategol, Datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, Datblygu'r gymraeg

 

Cyfnod Allweddol 2

Gwyddoniaeth, Celf a dylunio, Daearyddiaeth, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, Sgiliau llythrennedd, Sgiliau rhifedd

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gasgliad o ddelweddau i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn. Mae'r casgliad yn cynnwys delweddau o'r adnodd, a rhai ychwanegol i wella profiad dysgu eich disgyblion.

Lawrlwytho'r Adnodd Dysgu

dol_drefol.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) urban_meadow.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw