Casgliad Ddôl Drefol
Mae’r Casgliad hwn yn cyd-fynd â’r adnodd dysgu Dôl Drefol, a grëwyd gan Amgueddfa Cymru. https://www.casgliadywerin.cymru/learn/urban-meadow
Yn 2014, creodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Ddôl Drefol ar dir yr Amgueddfa, fel lloches i fywyd gwyllt yng nghanol y ddinas. Rydym yn gobeithio y bydd y ddôl yn denu gwenyn a pheillwyr eraill i ganol y ddinas. Mae ein staff hefyd yn gofalu am gychod gwenyn ar do’r Amgueddfa. Mae’r tri chwch yn cynnwys tua 90,000 o wenyn rhyngddynt.
Bwriad y pecyn yw helpu athrawon ac addysgwyr y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 i baratoi at arwain ymweliad i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ond gellir ei ddefnyddio i gefnogi dysgu yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt hefyd. Mae llawer o syniadau a gweithgareddau i fynd i’r afael â nhw cyn eich ymweliad, tra byddwch yn yr Amgueddfa ac yn ôl yn yr ysgol. Yng nghefn y pecyn, ceir adran adnoddau gyda thaflenni gwaith a gweithgareddau.