Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cribell Felen (Rhinanthus minor) yn tyfu ar y Ddôl yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r Gribell Felen yn rhywogaeth bwysig wrth ffurfio d'l, gan ei fod yn blanhigyn lled-barasitig sy'n dwyn bwyd y gwair. Mae'r gwreiddiau yn gafael yng ngwreiddiau'r gwair ac yn dwyn y maeth, gan atal twf y gwair a galluogi i blanhigion eraill dyfu. Fel rheol, mae dolydd blodau gwylltion yn cynnwys cyfuniad o laswelltydd a blodau. Maen nhw'n gynefin ardderchog i lawer o greaduriaid, yn enwedig peillwyr fel gwenyn a gloÿnnod byw. Sgroliwch i weld yr holl ddelweddau. Mae'r eitem hon yn rhan o Adnodd Dysgu Ddôl Drefol ar gyfer Cyfnod Sylfaen a Cyfnod Allweddol 2.https://www.casgliadywerin.cymru/learn/urban-meadow

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw