Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dôl Drefol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn dangos y safle cyn ac ar ôl i'r ddôl gael ei thrin. Sgroliwch i weld yr holl ddelweddau. Glaswellt wedi'i dorri'n fyr oedd ar safle ein Dôl ô'r blaen a doedd dim llawer yma i ddenu bywyd gwyllt. Er mwyn creu'r Ddôl, y peth cyntaf a wnaethon ni oedd gadael i'r glaswellt dyfu'n uwch i weld a fyddai mathau eraill o blanhigion yn tyfu. Yna, fe godwyd tywyrch bychain a phlannu hadau a phlanhigion plwg blodau a glaswelltydd. Ar ôl plannu, cafodd y tir dyfu'n naturiol; y cyfan wnaethon ni oedd gofalu nad oedd planhigion fel dant y llew yn cymryd drosodd. Mae'r eitem hon yn rhan o Adnodd Dysgu Ddôl Drefol ar gyfer Cyfnod Sylfaen a Cyfnod Allweddol 2.https://www.casgliadywerin.cymru/learn/urban-meadow

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw