Skip to main content

Un ô'r diliau yn llawn mêl

Disgrifiadau

Pam y mae gwenyn mêl yn gwneud mêl? Yn wahanol i wenyn eraill, dydi gwenyn mêl ddim yn gaeafgysgu. Yn lle hynny, maen nhw'n closio at ei gilydd yn y cwch gwenyn i gadw'n gynnes. Ym Mhrydain, mae'n rhy oer i wenyn mêl adael y cwch yn ystod y gaeaf a, hyd yn oed pe baen nhw'n mynd, does dim llawer o flodau i roi bwyd iddyn nhw. Yn ystod yr haf, mae'r gwenyn gweithgar yn gwneud mêl ac yn ei storio yn y cwch. Yna, mae'r gwenyn yn bwyta'r mêl yn y gaeaf fel nad oes angen iddyn nhw adael y cwch i chwilio am fwyd. Fel rheol, mae cytrefau'n cynhyrchu dwywaith neu dair gwaith gymaint o fêl ag y mae arnyn nhw ei angen ac felly mae'r gwenynwr yn gallu cymryd peth ô'r mêl i bobl ei fwyta heb lwgu'r gwenyn. Mae'r eitem hon yn rhan o Adnodd Dysgu Ddôl Drefol ar gyfer Cyfnod Sylfaen a Cyfnod Allweddol 2.https://www.casgliadywerin.cymru/learn/urban-meadow

Owner:
Nature's Little Helpers
Crëwr:
Nature's Little Helpers
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Nature's Little Helpers 2018
Eitem wedi’i llwytho:
13/12/2018
Gwelediadau:
722
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment