Disgrifiad

Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae gennym gychod gwenyn ar y to! Mae'r tri chwch yn cynnwys tua 90,000 o wenyn rhyngddynt. Mae criw bach o staff yr Amgueddfa wedi'u hyfforddi i ofalu am y gwenyn ac archwiliô'r cwch unwaith yr wythnos ô'r gwanwyn i'r hydref. Yn y gwanwyn a'r haf, maen nhw'n gofalu bod y frenhines yn dodwy wyau a bod popeth yn iawn yn y cwch. Yn yr hydref, mae'n bwysig sicrhau bod digon o fwyd yn y cwch. Rydyn ni'n rhoi surop siwgr gwrthdro' dig (cymysgedd o glwcos a ffrwctos) yn y cwch er mwyn sicrhau bod y gwenyn yn cael digon o fwyd. Yr hydref yw'r amser i gasglu'r mêl fel rheol ond, gan fod ein gwenyn ni'n eithaf newydd, wnawn ni ddim casglu mêl eleni. Mae'r delweddau hyn yn dangos y diwrnod y cyrhaeddodd y gwenyn yr Amgueddfa ym mis Awst 2014. Y gwenynwyr lleol 'Natures Little Helpers' roddodd y gwenyn i ni, a chawsom hyfforddiant ganddynt hefyd. Nid ein cychod gwenyn ni yw'r unig rai yng nghanol Caerdydd. Mae cychod ym Mhrifysgol Caerdydd, gwesty'r Royal a chanolfan siopa Dewi Sant hefyd. Sgroliwch i weld yr holl ddelweddau. Mae'r eitem hon yn rhan o Adnodd Dysgu Ddôl Drefol ar gyfer Cyfnod Sylfaen a Cyfnod Allweddol 2.https://www.casgliadywerin.cymru/learn/urban-meadow

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw