Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae gennym gychod gwenyn ar y to! Mae'r tri chwch yn cynnwys tua 90,000 o wenyn rhyngddynt. Mae criw bach o staff yr Amgueddfa wedi'u hyfforddi i ofalu am y gwenyn ac archwiliô'r cwch unwaith yr wythnos ô'r gwanwyn i'r hydref. Yn y llun hwn, mae staff yr Amgueddfa yn derbyn hyfforddiant gan y gwenynwyr lleol 'Natures Little Helpers', wnaeth ddod âr gwenyn yma hefyd. Nid ein cychod gwenyn ni yw'r unig rai yng nghanol Caerdydd. Mae cychod ym Mhrifysgol Caerdydd, gwesty'r Royal a chanolfan siopa Dewi Sant hefyd. Mae'r eitem hon yn rhan o Adnodd Dysgu Ddôl Drefol ar gyfer Cyfnod Sylfaen a Cyfnod Allweddol 2.https://www.casgliadywerin.cymru/learn/urban-meadow

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw