Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Arthaldeus pascuellus, un ô'r rhywogaethau o sboncynnod y dail sy'n byw yn y Ddôl Drefol, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Yma, yn yr Amgueddfa, mae gennym dystiolaeth fod ein Dôl wedi helpu i ddenu bywyd gwyllt. Mae un o wyddonwyr yr Amgueddfa, Dr Mike Wilson, yn arbenigwr mewn gr?p o bryfed ô'r enw sboncyn y dail a'r sboncyn planhigion. Ym mis Medi 2014, aeth Dr Mike ati i gyfrif faint o sboncynnod planhigion a sboncynnod dail y gallai eu casglu mewn darn 1m2 ô'r Ddôl ac mewn darn 1m2 o borfa wedi'i dorri gerllaw. Casglodd y sboncynnod gan ddefnyddio dyfais ô'r enw samplydd-sugno, sy'n sugnô'r pryfed i fyny i rwyd. Nododd pa fath o sboncynnod oeddynt fel ei fod yn gwybod faint o rywogaethau oedd yna. Daeth o hyd i tua 150 o sbesimenau yn y Ddôl, ond dim ond tua 10 sbesimen yn y glaswellt nesaf at y Ddôl. Daeth o hyd i chwe gwahanol rywogaeth o sboncyn yn y Ddôl a dim ond dwy wahanol rywogaeth ar y glaswellt wedi'i dorri. Mae hyn yn golygu bod 15 gwaith cymaint o sboncynnod a thair gwaith cymaint o rywogaethau sboncynnod yn y Ddôl o'i gymharu i'r glaswellt wedi'i dorri. Aeth ati i luosi'r niferoedd hyn a maint y Ddôl a chyfrifo y gallai fod cynifer a 29,000 o sboncynnod yn byw yn ein Dôl! Mae'r eitem hon yn rhan o Adnodd Dysgu Ddôl Drefol ar gyfer Cyfnod Sylfaen a Cyfnod Allweddol 2.https://www.casgliadywerin.cymru/learn/urban-meadow

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw