10 mlynedd o Gasgliad y Werin Cymru
Mae Casgliad y Werin Cymru wedi cyrraedd ei 10fed flwyddyn!
Mae eleni yn nodi'r 10fed flwyddyn ers i Gasgliad y Werin Cymru gael ei sefydlu. Ers 2008, mae'r rhaglen wedi mynd o nerth i nerth; o lansiad y wefan yn ôl yn 2010, i wefan sydd bellach gyda dros 100,000 o eitemau. Mae'r ffotograffau, dogfennau, recordiadau sain a fideo yn helpu i greu darlun cyflawn o hanes a threftadaeth Cymru.
Hoffem ddiolch i chi am ymuno a'n helpu ni ar y daith hon a gobeithio y byddwch yn parhau i roi eich cefnogaeth i ni dros y blynyddoedd i ddod.
Dros 200 o bobl wedi'u hyfforddi mewn digido
Mae Casgliad y Werin Cymru wedi teithio ledled Cymru, a hyd yn oed i Rochester, i ddarparu hyfforddiant ddigido i dros 200 o bobl o fis Ebrill 2017 - Mawrth 2018. Dysgodd y rhai a fynychodd y sesiynau hyfforddi am hawlfraint, metadata, a sut i drefnu, sganio a digideiddio ffotograffau a dogfennau i safonau amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd.
Aeth dros 40 o'r rhai a dderbyniodd yr hyfforddiant ymlaen i wneud achrediad lefel 2, 3 credyd Agored Cymru.
Llongyfarchiad i bawb a wnaeth cwblhau'r hyfforddiant.
Darganfyddwch fwy am yr hyfforddiant a ddarparwn.
Papur polisi "Culture is Digital"
Crybwyllwyd Casgliad y Werin Cymru yn ddiweddar yn y papur polisi "Culture is Digital" Llywodraethau'r DU. Nododd y papur bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddathlu diwylliant a threftadaeth unigryw Cymru (Ffyniant i Bawb) ac i hyrwyddo mynediad digidol, gan ddatblygu'r potensial ar gyfer cyfryngau digidol i hyrwyddo diwylliant trwy brosiectau megis Casgliad y Werin. Soniodd y papur hefyd am Gasgliad y Werin Cymru o dan adran 6.2 fel astudiaeth achos. Gallwch ddarllen y papur polisi llawn yma (Saesneg yn unig).
Eleni rydym wedi trafaelio i Vancouver!
Yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth aelodau o'n tîm hedfan i Vancouver, Canada i gyflwyno yn y gynhadledd Museum and the Web 2018. Gallwch ddarllen y papur a gyflwynwyd gan ein tîm yma (Saesneg yn unig).