‘Dim ond fory tan y ffair’
Mae tref glan-môr Cricieth yng Ngwynedd nid yn unig yn adnabyddus am ei chastell ond hefyd am y ffeirau sydd wedi eu cynnal yn y dref ers cyn cof. Mae diogelu’r hanes hwnnw, ac amrywiol straeon, caneuon a llên gwerin sy’n ymestyn yn ôl sawl canrif, wedi bod yn un o amcanion y prosiect ‘Enwau, Chwedlau a Chân’ fel rhan o Gynllun Cymunedol Cricieth i bontio’r cenedlaethau.
Yn ôl y cynghorydd a’r hanesydd lleol, Robert Dafydd Cadwalader: “Mae Ffeiriau yn rhan bwysig o’n hanes a’n treftadaeth. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r ffordd mae pobl yn siopa wedi newid ac mae nifer y stondinau wedi lleihau, felly mae dyfodol y ffair yn ansicr. Efallai trwy adrodd y stori i gynulleidfa ehangach gobeithio y byddant yn parhau.”
Mae Ffion Gwyn, athrawes gelf yng Ngholeg Meirion Dwyfor, hefyd yn gynghorydd sydd wedi bod yn ymchwilio i gefndir y ffair a’r eitemau eraill sydd wedi eu rhannu gan ‘Enwau Chwedlau a Chân’ ar wefan Casgliad y Werin, ac fel Robert Cadwalader, mae hi wedi bod yn creu paentiadau a’u cyfosod gyda hen ffotograffau (rhai wedi eu postio ar dudalen Facebook’ Hen Luniau Cricieth) er mwyn dehongli’r hanesion.
Mae’r delweddau o fewn yr eitem hon yn cynrychioli tair elfen sydd wedi bod yn rhan bwysig o ffeiriau, sef y stondinau gwerthu nwyddau, y ffair hwyl a’r ffair geffylau. Mae’n debyg mai’r arfer oedd i’r brif ffair geffylau a gwartheg gael ei chynnal ym mis Mai, er bod da byw yn cael eu gwerthu ym mhob ffair. Yn 1949 y cynhaliwyd y ffair geffylau olaf yn yng Nghricieth.
Roedd y Bala hefyd yn dref arall yn y gogledd a oedd yn enwog am ei ffeiriau – yn arbennig felly Ffair Glamai:
Mae’r llun hwn yn rhan o gyfres o luniau a dynnwyd gan y ffotograffydd Geoff Charles o Ffair Glamai y Bala yn 1952. Gallwch bori’r casgliad cyfan yma.
Yn ystod Oes Fictoria y daeth y ffair hwyl i Gricieth yn gyntaf, fel sawl tref arall yng Nghymru, ac mae’n parhau i fod yn rhan o’r ddwy ffair sy’n dal i gael eu cynnal yno hyd heddiw, y naill ar 23 o Fai a’r llall, y Ffair Fawr, ar 29 o Fehefin. Ond ers lawer dydd cynhelid sawl ffair yn ystod y flwyddyn yng Nghricieth, gyda phedair prif ffair: Ffair Gŵyl Sant Marc (25 Ebrill), y Ffair Fai, Ffair Ganol Haf neu Ffair Ŵyl Ifan (ddiwedd Mehefin) a Ffair Calan Gaeaf a gynhelid yn ystod mis Tachwedd.
Roedd amseru cynnal y ffeiriau yn cyd-fynd gyda thymhorau’r flwyddyn, ac felly’n ddyddiau hollbwysig yng nghalendr y ffermwyr. Yn draddodiadol, byddai ffeiriau pentymor yn gyfle i gyflogi gweision a morynion ar gyfer y tymor oedd i ddod yn ogystal â phrynu a gwerthu anifeiliaid a phrynu offer amaethyddol, a dyma oedd y drefn led-led Cymru. Dyma, er enghraifft, boster ar ran Maer Aberteifi yn cadarnhau dyddiad ffair gyflogi’r dref yn 1861:
Yn ôl traddodiad, byddai gofyn i ffermwyr Dyffryn Teifi gael y gwenith gaeaf yn y ddaear erbyn y Ffair Galan Gaeaf hon – y ffair a gynhelid fel arfer ar 10 Tachwedd. Yng Nghaerfyrddin a’r cylch, wedyn, mae’n debyg y byddai Ffair John Brown, a gynhelid ar 15 Ebrill, yn ddyddiad i anelu ato ar gyfer troi’r gwartheg a phlannu tatws. Tybir mai ffotograff o Ffair John Brown ar Heol Awst, Caeryrddin tua dechrau’r 20G yw’r ddelwedd ganlynol gafodd ei chyfrannu i Gasgliad y Werin gan Amgueddfa Caerfyrddin:
Mae lluniau gwych gan y ffotograffydd enwog John Thomas o ffeiriau a gynhaliwyd yn nhrefi a phentrefi Cymru yn ystod ’80au a ’90au’r bedwaredd ganrif ar bymtheg – ffeiriau da byw ydynt yn bennaf, yn amrywio o Ffair Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd, i Dal-y-bont, Ceredigion, Llanidloes a Llanbryn-mair yn y canolbarth, ac i lawr i Faenclochog. Hawdd dychmygu'r bwrlwm a'r bargeinio yn ffeiriau'r casgliad hwn gan y Llyfrgell Genedlaethol.
Yn ôl â ni i Gricieth ac at un datblygiad a welodd gynnydd sylweddol yn nifer y rhai fyddai’n ymweld â’r dref ar ddiwrnod ffair, a hynny oedd dyfodiad y rheilffordd yn 1867. Bryd hynny, meddid, ‘ … byddai mwy fyth o dda byw yn ôl ac ymlaen I’r dref a dillad gwely a lliain o Fanceinion, charpedi o fannau eraill a llestri o Ardal y Crochendai yn Swydd Stafford ar gyfer y merched oedd yn rhedeg y tai llety a gwely a brecwast oedd yn darparu ar gyfer y nifer cynyddol o dwristiaid.’ Eisoes, ers dechrau’r 19G, roedd canol y dref wedi symud o droed y castell i fyny i’r ffordd drypeg newydd oedd wedi’i hadeiladu tua 1807, a byddai’r stondinau’n ymestyn ar hyd y ffordd hon ac yn rhedeg i lawr at y traeth.
Gyda chenedlaethau o drigolion Cricieth a’r dalgylch wedi rhannu’r profiad o fynd i’r ffair – am hwyl, i brynu neu i werthu – dyw hi ddim yn syndod, o bosib, bod Ffair Cricieth wedi cael ei dewis i ymddangos ar ddyluniad un o’r ‘Meinciau Cyfeillgarwch’ lliwgar sydd i’w gweld yn y dref. Cafodd y ddwy fainc eu hatgyweirio’n ddiweddar, a’u paentio gan fyfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor a chomisiynwyd Ffion Gwyn i fod yn gyfrifol am y gwaith celf sy’n adrodd hanesion lleol a dathlu traddodiadau’r dref.
Crewyd y Meinciau Cyfeillgarwch fel rhan o gynllun Pontio’r Cenedlaethau Cyngor Gwynedd ac yn ôl y Cynghorydd Sian Williams, Cadeirydd y Cyngor Tref: '... mae'r meinciau’n croesawu pobl o bob oed i eistedd gyda’i gilydd a rhannu sgwrs. Mae’n wych gweld yr ymateb iddynt yn y gymuned a’r profiad cadarnhaol y mae wedi bod i’r myfyrwyr wrth eu creu ar ôl blwyddyn mor anodd oherwydd y pandemig.'
Mae’r gwaith celf ar y fainc sydd wedi ei lleoli ar y ‘Maes’ – yn agos at leoliad traddodiadol y ffeiriau – yn seiliedig ar hanes cyfoethog y ffeiriau fel man gwerthu anifeiliaid, yn wartheg, ceffylau, moch a defaid, heb sôn am y stondinau a’r adloniant sy’n dal i gael eu cynnig gan y ffair. Yn rhedeg trwy ganol y ‘Maes’ mae afon Cwrt a’r ffynnon sanctaidd a ddefnyddiwyd yn ôl y sôn gan John Rowlands ar gyfer ei ffatri potelu dŵr pefriog yn yr 19G – John ‘Ginger Beer’ fel y gelwid ef: dyma un arall o straeon ‘Cricieth – Enwau, Chwedlau, a Chân’ ar wefan Casgliad y Werin.
Rydyn ni’n hynod falch o ddeall bod codau QR wedi eu lleoli ar gefn y Meinciau Cyfeillgarwch hyn er mwyn i bobl eu sganio ar eu ffonau a chael eu cysylltu gyda’n gwefan i gael darllen mwy am eitemau ‘Cricieth – Enwau Chwedlau a Chân’, gan fynd â Chasgliad y Werin i galon y gymuned!
Os oes ganddoch chi luniau o ymweliadau â ffeiriau yr hoffech chi eu cyfrannu at Gasgliad y Werin, neu oes ganddoch chi hanesion am ffeiriau’r gorffennol cysylltwch â ni dros ebost: [email protected], neu ar y cyfryngau cymdeithasol: Facebook neu Twitter.
Gallwch hefyd bori drwy’r casgliadau hyn o Ffeiriau Hwyl a Marchnadoedd a Ffeiriau ar ein gwefan.
(Gyda i Glerc Cyngor Tref Cricieth, Dr Catrin Jones, am ddarparu’r wybodaeth ychwanegol ar gyfer y blog hwn.)