Cardiau post o’r gorffennol: llyfrgelloedd yn rhannu hanes ein trefi glan-môr drwy gardiau post

Yn ystod cyfnod clo 2021 bu Llyfrgell y Rhyl yn brysur yn sganio ac yn uwchlwytho casgliad mawr o gardiau post a oedd wedi eu cyflwyno iddynt gan Colin Jones a Brian V. Teece; maent yn cynnwys cardiau post sy'n dogfennu treftadaeth adeiledig y dref, o adeiladau rhestredig Gradd II megis gwestai a lletai, i dirnodau enwog ar lan y môr ac yn wir strydoedd yn nhref y Rhyl. Yn y casgliad hefyd ceir gardiau post gyda golygfeydd o’r pier a’r promenâd a’r traeth ei hun yn llawn twristiaid, fel y gwelir yn y cerdyn post hwn o’r cyfnod Edwardaidd o lan y môr y Rhyl, sy’n dangos y cytiau oedd yn cael eu tynnu gan geffylau ar gyfer ymdrochwyr.

Rhoddodd yr awdurdodau sêl bendith ar gardiau post yn dangos lluniau yn 1894, oherwydd o’r dyddiad hwn ymlaen caniatawyd i bobl brynu stampiau dimau i’w rhoi ar gardiau a gynhyrchwyd yn breifat. Cyn hyn, Adran Gyllid y Llywodraeth oedd yn gyfrifol am argraffu stamp ar bob cerdyn post. Gellid dweud, yn fras, mai rhwng 1905-1915 oedd oes aur y cerdyn post, a bryd hynny câi miliynau o gardiau post eu hanfon yn ddyddiol; yn 1909 er enghraifft, aeth cyfanswm o 866 miliwn o gardiau drwy law Swyddfa’r Post ym Mhrydain. Yng Nghymru, hefyd, arweiniodd y galw cynyddol at nifer o gyhoeddwyr rhanbarthol a lleol yn dechrau busnesau.

Debbie Owen, Rheolwr Llyfrgell a Gwasnaethau Cwsmeriaid Llyfrgelloedd Y Rhyl a Phrestatyn, sy’n egluro yma pam y bu iddyn nhw benderfynu cyhoeddi eu casgliadau cardiau post ar wefan Casgliad y Werin: ‘Fe wnaeth rhai o staff Llyfrgell y Rhyl fynychu gweithdy dros zoom a gynhaliwyd gan Gasgliad y Werin Cymru yn ôl ym mis Tachwedd 2020, a rhannwyd yr hyfforddiant gyda’r tîm cyfan. Roeddem o’r farn y byddai’n llwyfan da iawn i rannu rhai o’n deunyddiau astudiaethau lleol, yn enwedig ein casgliad mawr o gardiau post – ac yn arbennig felly gan fod hwn yn gyfnod pan na allai pobl ymweld yn bersonol.’

Daw’r ddelwedd uchod o un o’r cardiau post cynharaf yng nghasgliad Llyfrgell y Rhyl, ac mae’n dangos llun hyfryd hon o ŵr bonheddig o Oes Fictoria mewn dillad hamdden ar Rodfa’r Gorllewin gyda’r Ffynnon Yfed yn y cefndir. Nodir bod y ddelwedd ei hun yn dyddio o 1871, er mae’n debyg y byddai’r cerdyn post ei hun wedi cael ei gynhyrchu rai blynyddoedd yn ddiweddarach.

Meddai Debbie Owen: ‘Mae tref y Rhyl wedi bod yn gyrchfan glan môr boblogaidd ers blynyddoedd lawer ac mae wedi gweld llawer o newidiadau, sy’n cael eu hadlewyrchu yn y cardiau post, megis Pafiliwn gwreiddiol y Rhyl (1908-1974) a welir yma:

a’r pwll nofio awyr agored ar y Prom, a ymddangosodd ar y cerdyn post hwn yn y 1930au.’

‘Mae cardiau post yn gwneud i rywun feddwl yn syth am wyliau glan-môr ym Mhrydain,’ meddai Debbie Owen, ‘yntydyn ni i gyd, ryw dro, wedi anfon neges “biti na fyddech chi yma”, neu wedi ei derbyn gan rywun arall? I mi, fe wnaeth y cardiau post ddod ag atgofion yn ôl o ymweliadau â’r Heulfan pan oeddwn yn blentyn yn ôl yn y 1980au, a holl gyffro’r peiriannau tonnau!’

‘Roedd catalogio’r cardiau post yn dasg roedden ni’n gallu ei gwneud o adref, pan oedd y llyfrgell ar gau, rhwng ein tasgau eraill, megis gwneud galwadau ffôn. Cyfrannodd y tîm cyfan at hyn, gan y gallai rhai ohonom sganio’r cardiau gartref, gyda phobl eraill yn eu catalogio yn Saesneg, a byddai rhywun arall yn gwirio’r Gymraeg. Gobeithio, gan ein bod bellach yn ôl ar agor, y byddwn yn dal i ddod o hyd i amser i barhau i ychwanegu eitemau diddorol at Gasgliad y Werin.’

Mae rhai o eitemau Llyfrgell y Rhyl wedi cael eu dwyn ynghyd yng nghasgliad Gwestai'r Rhyl, casgliad y Pafiliwn Pier a’r Promenâd a hefyd y casgliad Adloniant a Hamdden yn y Rhyl Dros y Degawdau, ac yn adlewyrchu rhai o’r pynciau poblogaidd sydd wedi apelio at dwristiaid dros y blynyddoedd.

Mae cyfrif Llyfrgelloedd Bro Morgannwg wedi bod yn cyhoeddi eitemau ar wefan Casgliad y Werin Cymru ers 2014, ac mae eu cyfraniadau diweddaraf o dros 500 o eitemau yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, nifer o gardiau post gan Lyfrgell y Barri sy’n portreadu Ynys y Barri hanesyddol a thraeth euraidd Bae Whitmore gerllaw. Daeth y casgliad hwn ynghyd dros nifer o flynyddoedd, gyda deunydd a dderbyniwyd yn ystod yr 1980au a'r 1990au fel rhan o'r prosiect 'Archif Byw' mewn partneriaeth gyda Valley and Vale yn rhan ganolog ohono. (Mae'r fideos sydd gan gyfrif Llyfrgelloedd Bro Morgannwg ar Gasgliad y Werin hefyd yn deillio o'r prosiect hwn.)

Gellir gweld casgliad o ddelweddau sy'n cofnodi hanes Ynys y Barri fel cyrchfan gwyliau dros y blynyddoedd yma. Bu Ynys y Barri yn denu twristiaid ar raddfa fach o’r 1850au ymlaen. Fodd bynnag, yng nghanol y datblygiadau mawr ym maes diwydiant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn dilyn datblygu Dociau’r Barri, pan gysylltwyd Ynys y Barri â'r tir mawr â rheilffordd yn 1896, y dechreuodd ymwelwyr heidio draw yno am y dydd. O ganlyniad, daeth mynd am y diwrnod i’r traeth yn rhywbeth a oedd yn bosib i bob dosbarth cymdeithasol, nid dim ond y dosbarthiadau uwch.

Roedd cyfleusterau ar gyfer ymdrochwyr wedi’u cyflwyno o ddiwedd y 19eg ganrif ymlaen. Adeiladwyd 'Tŷ Ymdrochi'r Merched' ar Friars Point ar Fae Whitmore tra bod Tŷ Ymdrochi’r Dynion wedi’i leoli ar ochr Nell’s Point y bae, ac roedd yna hefyd Bwll Ymdrochi i Ferched ar y traeth ei hun, yn cael ei lenwi gan y llanw, fel y gwelir yn y cerdyn post ma:

[[iitem: 1771931]]

Roedd hwn yn gyfnod pan oedd cardiau post 'ffotograffig real' yn dal i fod yn boblogaidd; fe'u cyflwynwyd gyntaf yn oes Edwardaidd, gan roi cyfrif manwl ar bob agwedd ar fywyd bob dydd, ac fe fu i gyrchfannau gwyliau gwyliau fel Ynys y Barri a’r Rhyl dderbyn gwasanaeth da gan gyhoeddwyr cardiau post.

Un datblygiad a sicrhaodd bod ymwelwyr o ymhellach i ffwrdd yn cyrraedd Ynys y Barri oedd dyfodiad y stemars olwyn a’r cychod i deithwyr a oedd yn rhedeg o bier y Barri. Bu stemar olwyn y 'Cambria', oedd yn eiddo i gwmni’r Bristol Shipping Company, P &A Campbell yn rhedeg rhwng 1895-1966. Stemar olwyn arall oedd y 'Gwalia' a welir yn y cerdyn post isod, a bu ei pherchnogion – y Barry Railway Company – yn darparu gwasanaeth o 1905-1910:

Er bod ambell i garwsél wedi ymddangos ar Ynys y Barri ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dyfodiad atyniad y Ffigur 8 enwog a adeiladwyd gan y White Brothers yn 1912 a ddechreuodd ddenu’r torfeydd mawr.

Ymddangosodd nifer o reidiau ffair a stondinau difyrrwch gan Collins Fairground a’r White Brothers dros y degawdau a ddilynodd, a gellir gweld datblygiad safle’r Parc Difyrrwch yn nifer o’r cardiau post o’r 1920au a’r ’30au. Ymhlith yr atyniadau poblogaidd eraill roedd Llyn Cychod Ynys y Barri a’r promenâd newydd. Yn ogystal, roedd reidiau mewn cychod pleser o’r glanfeydd pren ar draeth Bae Whitmore i’w cael, ac mewn gwirionedd gellir dweud mai’r traeth ei hun oedd prif atyniad Ynys y Barri, hyd yn oed yn oes aur y gyrchfan gwyliau.

Er mai dim ond cyfran o’r niferoedd mawr o gardiau post a gynhyrchwyd mewn cyrchfannau glan-môr sydd wedi goroesi heddiw, mae’r cardiau hyn, fel y casgliadau a gedwir gan Lyfrgell y Rhyl a Llyfrgelloedd Bro Morgannwg, yn gofnod ffotograffig amhrisiadwy sy’n ein helpu i ddeall sut roedd pobl yn byw a sut y bu i gymdeithas newid a chroesawu datblygiadau newydd.

Drwy rannu’r casgliadau hyn ar wefan Casgliad y Werin Cymru mae’r ddwy lyfrgell wedi chwarae rhan bwysig yn sicrhau bod y casgliadau yma yn fwy hygyrch, gan ddod â hanes lleol i gynulleidfa ehangach, ac, o bosib, ysgogi ambell i atgof gan rai sydd wedi ymweld â’r Rhyl ac Ynys y Barri eu hunain yn y gorffennol.

Oes gennych chi luniau o wyliau sy’n adrodd peth o hanes ein trefi glan-môr? Cysylltwch â ni drwy ein cyfryngau cymdeithasol Facebook | Twitter | Instagram  neu dros ebost: [email protected]

 

 

 

This article was posted by:

Casgliad y Werin Cymru's profile picture

Casgliad y Werin Cymru